HRH The Duchess of Gloucester officially re-opens St John Ambulance Cymru’s refurbished headquarters

Her Royal Highness The Duchess of Gloucester visited St John Ambulance Cymru’s Priory House headquarters on September 4th to officially re-open the building following its recent refurbishment.

The visit came 20 years since the building was officially opened by The Duchess, who is Commandant-in-Chief of St John Ambulance Cymru, alongside her husband The Duke of Gloucester, who is the Grand Prior of the Order of St John.

Her Royal Highness was joined at the event by His Majesty’s Lord-Lieutenant of South Glamorgan, Mrs Morfudd Meredith; The High Sheriff of South Glamorgan, Mrs Janet Davies; as well as the Lord Mayor of Cardiff, Cllr Adrian Robson and Lady Mayoress, Cllr Jayne Cowan.

After being introduced to the Prior for Wales, Paul Griffiths OBE KStJ JP DL and St John Ambulance Cymru’s Chief Executive, Richard Lee MBE CStJ QAM, Her Royal Highness spoke with a number of St John People including volunteers, staff and Trustees who help deliver the charity’s work all over Wales.

The Prior for Wales, Paul Griffiths said: 

“It was a privilege to welcome Her Royal Highness to our headquarters and it was fitting that 20 years after Priory House was officially opened, The Duchess returned to mark this important step in our charity’s journey.

“Her Royal Highness was keen to hear how everyone played their part in supporting our work and was particularly interested to hear how the charity had evolved since the covid-19 pandemic and our vision to make Wales a community of lifesavers.

“We are extremely grateful to The Duchess, in the role of Commandant-in-Chief, for helping raise awareness of the dedication of our St John People, especially as many of them are busy providing additional first aid demonstrations around the country for our Save a Life September campaign.”

The visit concluded with the unveiling of a commemorative plaque to mark the event and official re-opening of the refurbished building, which has recently been adapted to accommodate all the charity’s operations in Cardiff.

To find out more about the work St John Ambulance Cymru does across Wales, visit www.sjacymru.org.uk.

 

EHB Duges Caerloyw yn ailagor pencadlys St John Ambulance Cymru yn swyddogol yn dilyn gwaith adnewyddu

Ymwelodd Ei Huchelder Brenhinol Duges Caerloyw â Thŷ’r Priordy, sef Pencadlys St John Ambulance Cymru ar 4ydd Medi, i ailagor yr adeilad yn swyddogol ar ôl ei adnewyddu'n ddiweddar.

Daeth yr ymweliad 20 mlynedd ers i'r adeilad gael ei agor yn swyddogol gan y Dduges, sy'n Bencadlywydd St John Ambulance Cymru, ochr yn ochr â'i gŵr Dug Caerloyw, sy'n Uwch Brior Urdd Sant Ioan.

Ymunodd Arglwydd Raglaw De Morgannwg, Mrs Morfudd Meredith; Uchel Siryf De Morgannwg, Mrs Janet Davies; â'i Huchelder Brenhinol yn y digwyddiad, yn ogystal ag Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Adrian Robson a'r Arglwydd Faeres, y Cyng. Jayne Cowan.

Ar ôl cael ei gyflwyno i'r Prior dros Gymru, Paul Griffiths OBE KStJ JP DL a Phrif Weithredwr St John Ambulance Cymru, Richard Lee MBE CStJ QAM, siaradodd Ei Huchelder Brenhinol â nifer o Bobl St John sy'n helpu i gyflawni gwaith yr elusen ledled Cymru, gan gynnwys gwirfoddolwyr, staff ac Ymddiriedolwyr.

Dywedodd y Prior dros Gymru, Paul Griffiths: 

“Roedd yn fraint croesawu Ei Huchelder Brenhinol i’n pencadlys ac roedd yn briodol bod y Dduges wedi dychwelyd 20 mlynedd ar ôl i Dŷ’r Priordy gael ei agor yn swyddogol, i nodi’r cam pwysig hwn yn nhaith ein helusen.

“Roedd Ei Huchelder Brenhinol yn awyddus i glywed sut y mae pawb yn chwarae eu rhan wrth gefnogi ein gwaith ac roedd ganddi ddiddordeb arbennig mewn clywed sut roedd yr elusen wedi esblygu ers y pandemig covid-19 a’n gweledigaeth i wneud Cymru yn gymuned o achubwyr bywydau.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i’r Dduges, yn rôl y Pencadlywydd, am helpu i godi ymwybyddiaeth o ymroddiad Pobl St John, yn enwedig gan fod llawer ohonynt yn brysur yn darparu arddangosiadau cymorth cyntaf ychwanegol ledled y wlad ar gyfer ein hymgyrch Achub Bywyd ym mis Medi.”

Daeth yr ymweliad i ben gyda’r Duges yn dadorchuddio plac coffa i nodi'r digwyddiad ac ailagoriad swyddogol yr adeilad wedi'i adnewyddu, sydd wedi'i addasu'n ddiweddar i ddarparu ar gyfer holl weithrediadau'r elusen yng Nghaerdydd.

I gael gwybod mwy am y gwaith mae St John Ambulance Cymru yn ei wneud ledled Cymru, ewch i www.sjacymru.org.uk.

Published September 10th 2025

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer