A new partnership between St John Ambulance Cymru and Brodie’s Coffee Co will see monthly community coffee mornings offer customers the chance to learn simple first aid skills that could one day save a life.
Lattes with Lifesavers is set to run on weekends each month at rotating Brodie’s locations across Cardiff. The relaxed drop-in sessions will allow visitors to enjoy their usual brew while trained St John Ambulance Cymru volunteers demonstrate essential techniques and answer questions about first aid.
The sessions have been designed to make lifesaving knowledge accessible, friendly and part of everyday community life.
St John Ambulance Cymru will supply experienced volunteers who will bring first aid knowledge, information people can take home with them, along with social media support, recognising Brodie’s as an official community partner.
Asghar Iqbal, St John Ambulance Cymru’s Deputy County Commissioner for Cardiff and the Vale, said upon attending the first session: “We’re here to get the word out and to make sure people who may not think they need first aid skills know the skills, just in case.
“Lattes with Lifesavers makes first aid accessible in a relaxed, welcoming setting and helps people build confidence in skills that could save a life. It’s exactly the kind of community partnership that creates real impact.”
The first session ran between 9am and 12pm on Saturday, December 6. Dates for future sessions will be confirmed in due course.
Coffi ffres a chymorth cyntaf yn dod at ei gilydd fel rhan o bartneriaeth newydd St John Ambulance Cymru a Brodie’s Coffee Co
Bydd partneriaeth newydd rhwng St John Ambulance Cymru a Brodie’s Coffee Co yn gweld boreau coffi cymunedol misol yn cynnig cyfle i gwsmeriaid ddysgu sgiliau cymorth cyntaf syml a allai achub bywyd yn y dyfodol.
Bydd partneriaeth newydd rhwng St John Ambulance Cymru a Brodie’s Coffee Co yn gweld boreau coffi cymunedol misol yn cynnig cyfle i gwsmeriaid ddysgu sgiliau cymorth cyntaf syml a allai achub bywyd yn y dyfodol.
Bydd 'Baned gydag Achubwyr Bywyd' yn cael ei chynnal ar benwythnosau bob mis mewn gwahanol leoliadau Brodie’s ledled Caerdydd. Bydd y sesiynau galw heibio hamddenol yn caniatáu i ymwelwyr fwynhau eu paned arferol tra bod gwirfoddolwyr hyfforddedig St John Ambulance Cymru yn arddangos technegau hanfodol ac yn ateb cwestiynau am gymorth cyntaf.
Mae'r sesiynau wedi'u cynllunio i wneud gwybodaeth sy'n achub bywydau yn hygyrch, yn gyfeillgar ac yn rhan o fywyd cymunedol bob dydd.
Bydd St John Ambulance Cymru yn darparu gwirfoddolwyr profiadol a fydd yn dod â gwybodaeth am gymorth cyntaf, gwybodaeth i bobl fynd adref gyda nhw, ynghyd â chefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gydnabod Brodie’s fel partner cymunedol swyddogol.
Wedi mynychu’r sesiwn gyntaf, dywedodd Asghar Iqbal, Dirprwy Gomisiynydd Sirol St John Ambulance Cymru dros Gaerdydd a’r Fro: “Rydym yma i ledaenu’r gair ac i wneud yn siŵr bod pobl nad ydynt efallai’n meddwl bod angen sgiliau cymorth cyntaf arnynt yn gwybod y sgiliau, rhag ofn.
“Bydd 'Baned gydag Achubwyr Bywyd' yn gwneud cymorth cyntaf yn hygyrch mewn lleoliad hamddenol a chroesawgar, ac yn helpu pobl i feithrin hyder mewn sgiliau a allai achub bywyd. Dyma’r union fath o bartneriaeth gymunedol sy’n creu effaith wirioneddol.”
Cynhaliwyd y sesiwn gyntaf rhwng 9am a 12pm ddydd Sadwrn, 6 Rhagfyr. Bydd y dyddiadau ar gyfer sesiynau yn y dyfodol yn cael ei chadarnhau maes o law.