Prior for Wales shares personal story behind his commitment to St John Ambulance Cymru

When Paul Griffiths became Prior for Wales in 2023, he took on one of the most historic voluntary leadership roles in the country. Two years in, he looks back on a period filled with pride, challenge and moments that made him pause and reflect.

“It has been a privilege,” he says on a special Trustees’ Week episode of the podcast Just in Case: Stories from St John. “The responsibility is huge, but so is the pride. I will always give one hundred per cent.”

His route into the charity was anything but traditional. It began in a car park in Newport, waiting for his son Joe to finish first aid sessions for his Duke of Edinburgh Award.

“It all started with my son showing interest in first aid,” Paul recalls. “I used to take him to Newport for his training, and I slowly got drawn in. I am indebted to the charity because of the link between his own development and what St John offered him. He is now a doctor and still connected to the charity, and I could not be prouder.”

From those early days, Paul began volunteering locally, then moved into roles supporting property and infrastructure before serving as Chair of the Gwent St John Council for six years. In 2023, he became Prior for Wales and Chair of the Board of Trustees. Despite a long career in public service as a senior police officer, he says stepping into the Prior role meant learning fast.

“When I first started and was asked what a Prior does, I had to be honest and say I was still learning,” he says with a smile. “It is about being present, being supportive and setting standards. Ultimately, it is about doing your best for the public.

“I had six months to prepare. I did a lot of reading and met a lot of people. I came into the role with my eyes open. It was not about apprehension; it was about my keenness to get going and shape a positive future.”

Paul joined at a challenging time. The focus was clear: strengthen leadership and values, secure financial stability and improve the volunteer experience. “The first 18 months were difficult,” he admits. “The charity had invested its way out of financial difficulty, and there were governance and operational challenges. But today we are in a much stronger place. Morale is higher, and you can feel the positivity when you meet volunteers across Wales.”

One of the biggest surprises was discovering the scale of St John globally. “I did not appreciate the strength of the Order of St John across the globe,” he says. “Hosting the Grand Council in Wales made it clear. You realise you are part of something with a thousand years of history and a mission that has not changed: helping people.”

Even so, the moments that stand out most for him are close to home, recognising Welsh volunteers at investitures and visitations. “Celebrating those who give their time to help others is incredibly special,” he says. “These are ordinary people doing extraordinary things.”

Looking ahead, Paul knows what he hopes to leave behind. “I want to hand over a charity that is strong, financially sound and full of volunteers who enjoy being part of St John. I want staff to feel valued and excited about their careers. I want the next Prior to inherit opportunity, not a crisis.

“Being part of St John has been fulfilling beyond words. It is hard work, but you play a real role in helping people and shaping the future. You do it because you care, and because you want to see Wales thrive.”

St John Ambulance Cymru provides lifesaving support at events across Wales and delivers first aid training to people of all ages. To get involved, book training, or support their work, visit www.sjacymru.org.uk. 

Just in Case: Stories from St John is available on all major podcast platforms, including Spotify and Apple Podcasts, with new episodes set to release every month.

Click the links to listen on Apple Podcasts or to listen on Spotify.

 

Y Prior i Gymru yn rhannu’r stori bersonol y tu ôl i'w ymrwymiad i St John Ambulance Cymru

Pan ddaeth Paul Griffiths yn Brior i Gymru yn 2023, ymgymerodd ag un o'r rolau arweinyddiaeth wirfoddol fwyaf hanesyddol yn y wlad. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'n edrych yn ôl ar gyfnod llawn balchder, her ac eiliadau a barodd iddo oedi a myfyrio.

“Mae wedi bod yn fraint,” meddai ar bennod arbennig o’r podlediad Just in Case: Stories from St John ar gyfer Wythnos yr Ymddiriedolwyr. “Mae’r cyfrifoldeb yn enfawr, ond felly hefyd y balchder. Byddaf bob amser yn rhoi cant y cant.”

Roedd ei lwybr i mewn i'r elusen ymhell o fod yn draddodiadol. Dechreuodd mewn maes parcio yng Nghasnewydd, yn aros i'w fab Joe orffen sesiynau cymorth cyntaf ar gyfer ei Wobr Dug Caeredin.

“Dechreuodd y cyfan gyda fy mab yn dangos diddordeb mewn cymorth cyntaf,” cofiodd Paul. “Roeddwn i’n arfer mynd ag ef i Gasnewydd am ei hyfforddiant, ac yn araf bach cefais fy nenu i mewn. Rwy’n ddyledus i’r elusen oherwydd y cysylltiad rhwng ei ddatblygiad ei hun a’r hyn a gynigiodd St John iddo. Mae bellach yn ddoctor ac yn dal i fod yn gysylltiedig â’r elusen, ac ni allwn fod yn fwy balch.”

O'r dyddiau cynnar hynny, dechreuodd Paul wirfoddoli'n lleol, yna symudodd i rolau cefnogi eiddo a seilwaith cyn gwasanaethu fel Cadeirydd Cyngor Gwent St John am chwe blynedd. Yn 2023, daeth yn Brior i Gymru ac yn Gadeirydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr. Er iddo gael gyrfa hir mewn gwasanaeth cyhoeddus fel uwch swyddog heddlu, mae'n dweud bod camu i rôl y Prior yn golygu dysgu'n gyflym.

“Pan ddechreuais gyntaf a byddai pobl yn gofyn i mi beth mae Prior yn ei wneud, roedd yn rhaid i mi fod yn onest a dweud fy mod i’n dal i ddysgu,” meddai gyda gwên. “Mae’n ymwneud â bod yn bresennol, bod yn gefnogol a gosod safonau. Yn y pen draw, mae’n ymwneud â gwneud eich gorau dros y cyhoedd.

“Roedd gen i chwe mis i baratoi. Darllenais lawer a wnes i gwrdd â llawer o bobl. Dechreuais yn y rôl gyda fy llygaid ar agor. Nid oedd yn ymwneud â phryder; roedd yn ymwneud â’m brwdfrydedd i gychwyn a llunio dyfodol cadarnhaol.”

Ymunodd Paul ar adeg heriol. Roedd y ffocws yn glir: cryfhau arweinyddiaeth a gwerthoedd, sicrhau sefydlogrwydd ariannol a gwella'r profiad gwirfoddoli. “Roedd y 18 mis cyntaf yn anodd,” mae'n cyfaddef. “Roedd yr elusen wedi buddsoddi ei ffordd allan o anhawster ariannol, ac roedd heriau llywodraethu a gweithredol. Ond heddiw rydym mewn lle llawer cryfach. Mae morâl yn uwch, a gallwch deimlo'r positifrwydd pan fyddwch chi'n cwrdd â gwirfoddolwyr ledled Cymru.”

Un o'r pethau a oedd y syndod mwyaf oedd darganfod maint Urdd St John yn fyd-eang. “Doeddwn i ddim yn gwerthfawrogi cryfder Urdd St John ledled y byd,” meddai. “Roedd cynnal y Cyngor Mawr yng Nghymru yn ei gwneud yn glir. Rydych chi'n sylweddoli eich bod chi'n rhan o rywbeth sydd â mil o flynyddoedd o hanes a chenhadaeth sydd heb newid: helpu pobl.”

Er hynny, yr eiliadau sy'n sefyll allan fwyaf iddo yw'r rhai sy'n agos at adref, gan gydnabod gwirfoddolwyr Cymru mewn Arwisgiadau ac Ymweliadau. “Mae dathlu'r rhai sy'n rhoi o'u hamser i helpu eraill yn arbennig iawn,” meddai. “Pobl gyffredin yw'r rhain sy'n gwneud pethau eithriadol.”

Wrth edrych ymlaen, mae Paul yn gwybod beth mae'n gobeithio ei adael ar ei ôl. “Rwyf am drosglwyddo elusen sy'n gryf, yn gadarn yn ariannol ac yn llawn gwirfoddolwyr sy'n mwynhau bod yn rhan o St John. Rwyf am i staff deimlo'n werthfawr ac yn gyffrous am eu gyrfaoedd. Rwyf am i'r Prior nesaf etifeddu cyfle, nid argyfwng.

“Mae bod yn rhan o St John wedi bod yn brofiad boddhaol ,y tu hwnt i eiriau. Mae'n waith caled, ond rydych chi'n chwarae rhan wirioneddol wrth helpu pobl a llunio'r dyfodol. Rydych chi'n ei wneud oherwydd eich bod chi'n malio, ac oherwydd eich bod chi eisiau gweld Cymru'n ffynnu.”

Mae St John Ambulance Cymru yn darparu cymorth achub bywyd mewn digwyddiadau ledled Cymru ac yn cyflwyno hyfforddiant cymorth cyntaf i bobl o bob oed. I gymryd rhan, archebu hyfforddiant, neu gefnogi ei gwaith, ewch i www.sjacymru.org.uk.

Mae Just in Case: Stories from St John ar gael ar bob prif blatfform podlediadau, gan gynnwys Spotify ac Apple Podcasts, gyda phenodau newydd yn cael eu rhyddhau bob mis.

Cliciwch y dolennau i wrando ar Apple Podcasts neu i wrando ar Spotify.

Published November 7th 2025

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer