Diwrnod Ailddechrau Calon: y funud a achubodd fywyd Roy

39403.jpg

Bob blwyddyn ar 16 Hydref, mae Diwrnod Ailddechrau Calon yn ein hatgoffa y gall unrhyw un achub bywyd gyda CPR. Eleni, rydyn ni'n rhannu stori Roy, rhedwr marathon y cafodd ei fywyd ei achub gan ein gwirfoddolwyr yng Nghasnewydd.

Roedd Roy wedi rhedeg marathonau o'r blaen, ac nid oedd Marathon Casnewydd 2026 yn teimlo'n wahanol. Roedd wedi hyfforddi gyda'i dîm ac wedi bwyta'n dda. Wrth iddo nesáu at y llinell derfyn, cofiodd hyd yn oed dynnu ei het ar gyfer y llun. Edrychodd ar ei oriawr a gwenu – roedd ar y trywydd i gael amser gwych.

Y peth nesaf mae Roy yn ei gofio yw gorwedd mewn gwely ysbyty. Trodd ei wraig ato a dweud: "Roy, dyma'r dyn a achubodd dy fywyd."

Llygaid ar y llinell derfyn

Y dyn hwnnw oedd Gaz Lloyd-Ford, nyrs wirfoddol gydag Ambiwlans Sant Ioan Cymru.

Roedd Gaz yn cadw llygad ar y llinell derfyn, gan wybod ei bod yn fan allweddol ar gyfer argyfyngau meddygol. Sylwodd ar redwr â'i het yn ei law, yn gwenu ar ei oriawr, a pharhaodd i wylio'r dorf. Pan edrychodd yn ôl eiliadau'n ddiweddarach, roedd Roy ar ei liniau.

Adnabu Gaz arwyddion ataliad ar y galon ar unwaith, ac aeth ei dîm – a oedd wedi hyfforddi ar gyfer yr union foment hon – ati ar unwaith. Rhoddodd Gaz CPR tra bod gwirfoddolwyr yn symud Roy i'r babell feddygol gerllaw, yn ei gysylltu â monitor diffibriliwr, yn gwirio ei arwyddion hanfodol ac yn rhoi hylifau mewnwythiennol ac adrenalin iddo. Unwaith i galon Roy gael ei hailddechrau, aeth criw ambiwlans parafeddygol Sant Ioan ag ef i'r ysbyty.

Yna gwnaeth ein gwirfoddolwyr rywbeth rhyfeddol: aethant yn syth yn ôl i'w safleoedd, er mwyn i bob rhedwr arall allu gorffen yn ddiogel.

Y funud a gymerodd i symud Roy o'r llawr i'r babell feddygol oedd y funud a achubodd ei fywyd.

"Roedd popeth yn llyfn a gwnaeth pawb yr hyn oedd angen ei wneud. Mae'n wirioneddol drawiadol bod ein gwirfoddolwyr yn dod at ei gilydd fel 'na ac yna'n ailosod mewn eiliadau i sicrhau diogelwch pobl eraill. Mae'n ddyn lwcus iawn. Nid fi yn unig oedd e." – Gaz

"Gallai fod wedi digwydd i unrhyw un"

Mae Roy a Gaz wedi cadw mewn cysylltiad ers y diwrnod hwnnw.

"Ro'n i'n teimlo mor heini ag erioed. Es i mewn i'r ras yn disgwyl rhedeg fy amser gorau erioed. Gofynnais i Gaz beth fyddai wedi digwydd pe bai hyn wedi digwydd bum munud yn gynharach. Y tebygolrwydd yw na fyddwn i wedi goroesi. Fe achubon nhw fy mywyd. Gallai fod wedi digwydd i unrhyw un." – Roy

Mae Roy yn llygad ei le. Gall ataliad ar y galon daro unrhyw un, unrhyw le – ac yn ôl Cyngor Dadebru y DU, llai nag un o bob 10 o bobl sy'n goroesi un y tu allan i'r ysbyty. Nid Roy yw'r rhedwr cyntaf i'n gwirfoddolwyr ei helpu chwaith: yn 2025, llewygodd Chris Edwards fetrau o linell derfyn 10K Porthcawl a chafodd ei achub gan CPR a diffibriliwr ein gwirfoddolwyr.

Creu Cymru o achubwyr bywyd

Un stori o blith llawer yw stori Roy. Dyma beth gyflawnodd ein gwirfoddolwyr, ein hyfforddwyr a'n cefnogwyr gyda'i gilydd yn 2025:

  • 4 person wedi'u dadebru ar ôl ataliad ar y galon gyda chymorth Pobl Sant Ioan, a phob un yn fyw 30 diwrnod yn ddiweddarach
  • 1,239 o wirfoddolwyr yn rhoi o'u hamser ledled Cymru
  • 1,100+ o ddigwyddiadau wedi'u cynnwys gan ein cymorthwyr cyntaf, gan helpu 1,165 o gleifion
  • 20,698 o bobl yn dysgu sgiliau achub bywyd yn eu cymunedau, gan gynnwys 4,881 a addysgwyd gan ein gwirfoddolwyr
  • 1,300+ o ddisgyblion a staff wedi'u hyfforddi mewn un diwrnod yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd ar gyfer lansiad Defibruary
  • 12,209 o bobl yn cwblhau cyrsiau ardystiedig gyda'n Tîm Hyfforddiant yn y Gweithle
  • 650+ o blant a phobl ifanc yn ein 20 Brochfa Moch Daear a'n 30 Uned Cadetiaid – achubwyr bywyd y dyfodol

Beth allwch chi ei wneud ar Ddiwrnod Ailddechrau Calon

Nid oes angen i chi fod yn feddyg i achub bywyd. Gallai gwybod sut i wneud CPR a defnyddio diffibriliwr olygu bod rhywun fel Roy yn cyrraedd adref at ei deulu.

  • Dysgwch CPR. Archebwch gwrs neu dewch o hyd i sesiwn am ddim yn agos atoch chi yn sjacymru.org.uk.
  • Gwirfoddolwch gyda ni. Ymunwch â phobl fel Gaz a byddwch yno pan fo'n cyfrif fwyaf.
  • Cefnogwch ein gwaith. Mae'r hyfforddiant a'r offer y mae ein gwirfoddolwyr yn dibynnu arnynt yn bosibl diolch i roddion gan bobl fel chi.

Gyda'n gilydd, gallwn wneud Cymru yn gymuned o achubwyr bywyd.

Published October 16th 2026

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer