The St John People giving the gift of their time over Christmas so Wales can celebrate safely

Every December, while most of Wales slows down for the festive break, St John Ambulance Cymru gears up for one of its busiest periods of the year. Over Christmas, the first aid charity’s volunteers and staff provide round-the-clock medical support for communities across the country.

St John Ambulance Cymru’s Head of Response Operations, Darren Murray, who has volunteered with the organisation for nearly 15 years, says the scale of the charity’s Christmas operation is significant – and often overlooked.

He said during an interview for the St John Ambulance Cymru podcast, Just in Case: Stories from St John.

"Lots of people think the summer is really busy for our events, but we are busy all year round. We go straight into the Christmas light switch-ons, the Christmas markets, the tractor runs, the Santa dashes. We’re really busy with those local community events.”

The schedule quickly intensifies. On Christmas Eve, teams support community events across Wales before the Christmas Morning Swim in Porthcawl

By Boxing Day morning, volunteers are already out at iconic Welsh fixtures, including the Walrus Dip in Pembrey, the boxing dip in Deganwy and Cardiff Rugby.

Darren explained:

“On Christmas Day alone, we’ll have twelve Falls Response cars out across Wales. We’ve got mental health crisis cars out supporting the NHS. It doesn’t stop just because it’s Christmas Day.” 

From an ambulance operations perspective, rotas are organised early to guarantee essential coverage.

Darren added:

“We need to make sure those vehicles and resources are available.” 

For large events – including police-supported operations in North Wales – planning can start in late summer. Many Boxing Day events are booked a year in advance.

“Some of these events we’ve covered for ten, twenty, thirty years,” he added. “Customers are already sending in their booking forms the next day.” 

Darren is quick to highlight the personal sacrifices behind this work. He stressed:

“It’s all down to our volunteers giving up time with their family and friends over the festive period to support the charity and the community events. They cannot do their events without us.” 

When asked what message he would give those volunteers, he didn’t hesitate:

“Just to say thank you. We really, really appreciate it.” 

Darren, still a volunteer himself, will be out supporting a Boxing Day dip, as well as assisting police partners elsewhere in Wales – though he hopes to enjoy some family time too.

“I’m quite looking forward to having some downtime,” he added. “We need to be grateful for the time we do get with our families as well.” 

Over his 15 years of volunteering, Darren has witnessed first-hand the difference St John Ambulance Cymru can make.

“I’ve seen where we’ve had cardiac arrests and due to the interventions of our team, people have been able to be discharged from the hospital and go home,” he said. “A father has got to see his daughter walk down the aisle… a mother has got to see a grandchild.” 

He also stressed that much of the charity’s impact happens quietly, at small community events or in moments that never make headlines.

“Although it only seems like a little thing, doing lots of those little things has a massive impact on the NHS and the community across Wales,” he said. 

For Darren, the sense of purpose – along with the friendships formed over many years – is what keeps him returning.

“I’m still really proud of what we do as an organisation,” he added. “We may only be a little piece in a little part of Wales, but when you build that up, St John has a massive impact on the health and communities right across the world.”

Just in Case: Stories from St John is available on all major podcast platforms, including Spotify and Apple Podcasts, with new episodes set to release every month.

Click the links to listen on Apple Podcasts or to listen on Spotify.

 

Pobl St John yn rhoddi eu hamser dros y Nadolig fel y gall Cymru ddathlu'n ddiogel

Bob mis Rhagfyr, tra bod y rhan fwyaf o Gymru yn tawelu ar gyfer gwyliau’r Nadolig, mae St John Ambulance Cymru yn paratoi ar gyfer un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn. Dros y Nadolig, mae gwirfoddolwyr a staff yr elusen cymorth cyntaf yn darparu cymorth meddygol ar hyd y cloc i gymunedau ledled y wlad.

Dywedodd Darren Murray, Pennaeth Gweithrediadau Ymateb St John Ambulance Cymru, sydd wedi gwirfoddoli gyda'r sefydliad ers bron i 15 mlynedd, fod maint gweithrediad Nadolig yr elusen yn arwyddocaol - ac yn aml yn cael ei anghofio.

Meddai yn ystod cyfweliad ar gyfer podlediad St John Ambulance Cymru, Just in Case: Stories from St John:

“Mae llawer o bobl yn meddwl bod yr haf yn brysur iawn ar gyfer ein digwyddiadau, ond rydyn ni’n brysur drwy gydol y flwyddyn. Rydyn ni’n mynd yn syth i mewn i’r digwyddiadau i droi goleuadau Nadolig ymlaen, y marchnadoedd Nadolig, y teithiau tractor, y rasys Siôn Corn. Rydyn ni’n brysur iawn gyda’r digwyddiadau cymunedol lleol hynny.”

Mae'r amserlen yn dwysáu'n gyflym. Ar Noswyl Nadolig, mae timau'n cefnogi digwyddiadau cymunedol ledled Cymru ac wedyn mae'r digwyddiad Nofio Bore Nadolig ym Mhorthcawl.

Erbyn bore Gŵyl San Steffan, mae gwirfoddolwyr eisoes allan yn cefnogi digwyddiadau eiconig yng Nghymru, gan gynnwys Dip y Walrws ym Mhen-bre, y Dip San Steffan yn Neganwy a Rygbi Caerdydd.

Eglurodd Darren:

“Ar Ddydd Nadolig yn unig, bydd gennym ni ddeuddeg o ein ceir Gwasanaeth Ymateb i Gwympiadau allan ledled Cymru.

"Mae gennym ni geir argyfwng iechyd meddwl allan yn cefnogi’r GIG. Nid yw’n stopio oherwydd ei bod hi’n Ddydd Nadolig.”

Ychwanegodd Darren:

"Mae angen i ni sicrhau bod y cerbydau a’r adnoddau hynny ar gael.”

Ar gyfer digwyddiadau mawr – gan gynnwys gweithrediadau a gefnogir gan yr heddlu yng Ngogledd Cymru – gall cynllunio ddechrau ddiwedd yr haf. Mae llawer o ddigwyddiadau Gŵyl San Steffan yn cael eu harchebu flwyddyn ymlaen llaw. Ychwanegodd:

“Rydyn ni wedi bod yn cefnogi rhai o’r digwyddiadau hyn ers deg, ugain, tri deg mlynedd. “Mae cwsmeriaid eisoes yn anfon eu ffurflenni archebu i mewn y diwrnod ar ôl y digwyddiad!”

Mae Darren yn gyflym i dynnu sylw at yr aberthau personol y tu ôl i'r gwaith hwn.

“Mae'r cyfan achos mae ein gwirfoddolwyr yn rhoi o'u hamser gyda'u teulu a'u ffrindiau dros gyfnod yr ŵyl i gefnogi'r elusen a'r digwyddiadau cymunedol.

“Allan nhw ddim cynnal eu digwyddiadau hebddom ni.”

Pan ofynnwyd iddo ba neges y byddai’n ei rhoi i’r gwirfoddolwyr hynny, ni wnaeth oedi:

“Dim ond i ddweud diolch. Rydym yn eu gwerthfawrogi’n fawr iawn.”

Bydd Darren, sy'n dal i fod yn wirfoddolwr ei hun, allan yn cefnogi digwyddiad nofio ar Ddydd San Steffan, yn ogystal â chynorthwyo partneriaid heddlu mewn mannau eraill yng Nghymru - er ei fod yn gobeithio mwynhau rhywfaint o amser teuluol hefyd.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael rhywfaint o amser segur," ychwanegodd. "Mae angen i ni fod yn ddiolchgar am yr amser a gawn gyda'n teuluoedd hefyd."

Dros ei 15 mlynedd o wirfoddoli, mae Darren wedi gweld y gwahaniaeth y gall St John Ambulance Cymru ei wneud.

“Rydw i wedi gweld lle rydyn ni wedi cael ataliadau ar y galon ac oherwydd ymyriadau ein tîm, mae pobl wedi gallu cael eu rhyddhau o’r ysbyty a mynd adref,” meddai. “Mae dad wedi gweld ei ferch yn cerdded at yr allor… mae mam wedi cael cyfle i weld ŵyr neu wyres.”

Pwysleisiodd hefyd fod llawer o effaith yr elusen yn digwydd yn dawel, mewn digwyddiadau cymunedol bach neu mewn adegau nad ydynt byth yn cyrraedd y tudalennau blaen. Meddai:

“Er ei fod yn ymddangos fel peth bach yn unig, mae gwneud llawer o’r pethau bach hynny’n cael effaith enfawr ar y GIG a’r gymuned ledled Cymru."

I Darren, yr ymdeimlad o bwrpas – ynghyd â’r cyfeillgarwch a ffurfiwyd dros nifer o flynyddoedd – yw’r rhesymau pam ei fod yn dal i ddychwelyd. Ychwanegodd:

“Rwy’n dal yn falch iawn o’r hyn a wnawn fel sefydliad. Efallai mai dim ond darn bach mewn rhan fach o Gymru ydym ni, ond pan fyddwch chi’n adeiladu hynny i fyny, mae gan St John effaith enfawr ar iechyd a chymunedau ledled y byd.”

Mae Just in Case: Stories from St John ar gael ar bob prif blatfform podlediadau, gan gynnwys Spotify ac Apple Podcasts, gyda phenodau newydd yn cael eu rhyddhau bob mis.

Cliciwch y dolennau i wrando ar Apple Podcasts neu i wrando ar Spotify.

Published December 12th 2025

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer