Toyota Manufacturing UK Charitable Trust funding boost to supercharge St John Ambulance Cymru’s North Wales response

St John Ambulance Cymru has announced a major new funding injection from the Toyota Manufacturing UK Charitable Trust, marking a critical step in a partnership dedicated to bringing high quality care to local communities.

The £3,000 grant will directly fund essential frontline equipment for volunteers operating across Deeside and North Wales.

This 2026 boost follows a previous donation of £3,000 in 2025, signalling a growing commitment from Toyota to the health and safety of the region.

The funding is specifically earmarked for the high-tech outfitting of the charity’s mobile units and volunteer kits, including:

  • Lifesaving AEDs: New defibrillators and consumables to treat cardiac arrests in the community.
  • Trauma gear: Advanced first aid and trauma equipment for critical incidents.
  • Volunteer safety: High-quality PPE and safety equipment to protect responders.
  • Community engagement: Materials for "pop-up" first aid demonstrations to teach the public basic lifesaving skills.

Owen Thomas, Head of Fundraising and Communications at St John Ambulance Cymru said:

“Toyota’s continued investment is quite literally a lifesaver for our North Wales operations.

“As our St John People are often the first on the scene, this funding ensures they have equipment needed to treat patients when they need help and save lives when every second counts”.

The partnership highlights a shared commitment to the communities surrounding Toyota’s Deeside Engine Plant.

By equipping these responders, the Toyota Manufacturing UK Charitable Trust is helping St John Ambulance Cymru work toward its vision of Wales as a community of lifesavers.

The new equipment will be deployed immediately, supporting volunteers at hundreds of community events annually and assisting our schemes which support the emergency services and relieve pressure on the NHS.

Cefnogaeth ariannol Toyota Manufacturing UK Charitable Trust i roi hwb i waith ymateb St John Ambulance Cymru yng Ngogledd Cymru

Mae St John Ambulance Cymru wedi derbyn hwb ariannol mawr newydd gan Toyota Manufacturing UK Charitable Trust, sy'n nodi cam hollbwysig mewn partneriaeth sy'n ymroddedig i ddod â gofal o ansawdd uchel i gymunedau lleol.

Bydd y grant o £3,000 yn ariannu offer rheng flaen hanfodol ar gyfer gwirfoddolwyr sy'n gweithredu ledled Glannau Dyfrdwy a Gogledd Cymru.

Mae'r cyfraniad diweddaraf hwn yn dilyn rhodd flaenorol o £3,000 yn 2025, sy'n arwydd o ymrwymiad cynyddol gan Toyota i iechyd a diogelwch y rhanbarth.

Mae'r cyllid wedi'i glustnodi'n benodol ar gyfer offer uwch-dechnoleg ar gyfer unedau symudol yr elusen, yn ogystal ag offer a ddefnyddir gan wirfoddolwyr, gan gynnwys:

  • Diffibrilwyr (AEDs) sy'n achub bywyd: Diffibrilwyr newydd ac offer cysylltiedig i drin ataliadau ar y galon yn y gymuned.
  • Offer trawma: Offer cymorth cyntaf a thrawma uwch ar gyfer digwyddiadau critigol.
  • Diogelwch gwirfoddolwyr: Offer amddiffyn personol (PPE) ac offer diogelwch o ansawdd uchel i amddiffyn ymatebwyr.
  • Ymgysylltu â'r gymuned: Deunyddiau ar gyfer arddangosiadau cymorth cyntaf i ddysgu sgiliau sylfaenol achub bywyd i'r cyhoedd.

Dywedodd Owen Thomas, Pennaeth Codi Arian a Chyfathrebu yn St John Ambulance Cymru:

“Mae buddsoddiad parhaus Toyota yn llythrennol yn achubiaeth i’n gweithrediadau yng Ngogledd Cymru.”

“Gan mai Pobl St John yw’r cyntaf ar y safle yn aml, mae’r cyllid hwn yn sicrhau bod ganddyn nhw’r offer sydd ei angen i drin cleifion pan fydd angen cymorth arnyn nhw ac achub bywydau pan fydd pob eiliad yn cyfrif.”

Mae'r bartneriaeth yn tynnu sylw at ymrwymiad a rennir i'r cymunedau o amgylch Ffatri Peiriannau Toyota yng Nglannau Dyfrdwy.

Drwy gyfarparu'r ymatebwyr hyn, mae Toyota Manufacturing UK Charitable Trust yn helpu St John Ambulance Cymru i weithio tuag at ei weledigaeth o Gymru fel cymuned o achubwyr bywyd.

Bydd yr offer newydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith, gan gefnogi gwirfoddolwyr mewn cannoedd o ddigwyddiadau cymunedol drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â chynorthwyo ein mentrau sy'n cefnogi'r gwasanaethau brys ac yn lleddfu pwysau ar y GIG.

 

Published April 17th 2026

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer