Carmarthen’s volunteer hub reopens after successful renovation project

St John Ambulance Cymru’s Carmarthen Division celebrated the official reopening of its building in the town at the end of April, following an extensive renovation project.

 

The renovation was funded by the UK Government through the UK Shared Prosperity Fund, which is investing in projects for local people and local businesses across the country to help grow the economy, create jobs, improve transport and provide skills training and local business support. 

 

The Carmarthen Division of St John Ambulance Cymru plays a vital hub for volunteer activity. It is where adult, children and young volunteers meet and train, and where first aid demonstrations are held for community groups and the general public.

 

The building is also available for the public to hire for one-off events as well as for regular community group meetings. Volunteers are encouraging the people of Carmarthen to reach out via email to james.cordell@dyfedcounty.sjaw.org.uk if they have an interest in using the newly renovated building.

 

The project has modernised the building’s IT facilities and meeting space whilst also funding a new public access defibrillator, new materials for children and youth members and subsided uniform. This will reduce key barriers to volunteer participation as well as providing volunteers with some truly lifesaving equipment.

 

St John Ambulance Cymru provides essential services to the people of Carmarthen, through first aid training and treatment. The renovation project will play a huge role in maintaining these vital services and will help the volunteers to continue our mission of having first aid available to everyone, anytime, anywhere.

 

At the ceremony, which took place on Saturday 27th April, Miss Sara Edwards, His Majesty's Lord Lieutenant of Dyfed, officially reopened the building to the public. Adult, children and youth volunteers greeted senior members of the charity, along with members of the wider community to celebrate the completion of the project.

 

“The transformation at the building has been amazing, and to see the progress and improvements each week during the renovation has been really special,” commented James Cordell, volunteer Deputy Commissioner for Dyfed County.

 

“The refurbished facility, with new equipment and a modern look, will provide an increase in capacity for community engagement and volunteering opportunities, whilst enhancing wider community wellbeing through access to improved, safe facilities.”

 

“We hope that many new volunteers will join us at St John Ambulance Cymru in Carmarthen and make great use of this fantastic building.”

 

St John Ambulance Cymru has extended their thanks to everyone at the UK Government’s Levelling Up scheme for their help throughout the project, and is urging the wider community to reach out if they are interested in becoming a volunteer at Carmarthen Division.

 

You can find out more information about becoming a volunteer with the charity by visiting www.sjacymru.org.uk/en/page/volunteer.

 

Miss Sara Edwards, His Majesty's Lord Lieutenant of Dyfed, officially reopening the building.

Miss Sara Edwards, His Majesty's Lord Lieutenant of Dyfed, officially reopening the building.

 


 

Canolbwynt gwirfoddolwyr yng Nghaerfyrddin yn ailagor yn dilyn prosiect adnewyddu llwyddiannus

 

Dathlodd Is-adran St John Ambulance Cymru yng Nghaerfyrddin ailagoriad swyddogol ei hadeilad yn y dref ar ddiwedd mis Ebrill, yn dilyn prosiect adnewyddu helaeth.

 

Ariannwyd y gwaith adnewyddu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU, sy’n buddsoddi mewn prosiectau ar gyfer pobl leol a busnesau lleol ledled y wlad, i helpu i dyfu’r economi, creu swyddi, gwella trafnidiaeth a darparu hyfforddiant sgiliau a chymorth i fusnesau lleol.

 

Mae Is-adran St John Ambulance Cymru yng Nghaerfyrddin yn ganolbwynt hollbwysig ar gyfer gweithgareddau gwirfoddol. Dyma le mae oedolion, plant a gwirfoddolwyr ifanc yn cwrdd ag yn hyfforddi, a lle cynhelir arddangosiadau cymorth cyntaf ar gyfer grwpiau cymunedol a'r cyhoedd.

 

Mae’r adeilad hefyd ar gael i’r cyhoedd ei logi ar gyfer digwyddiadau untro, yn ogystal ag ar gyfer cyfarfodydd grŵp cymunedol rheolaidd. Mae gwirfoddolwyr yn annog pobl Caerfyrddin i estyn allan drwy e-bost at james.cordell@dyfedcounty.sjaw.org.uk os oes ganddynt ddiddordeb mewn defnyddio’r adeilad sydd newydd ei adnewyddu.

 

Mae’r prosiect wedi moderneiddio cyfleusterau TG a man cyfarfod yr adeilad, a hefyd wedi ariannu diffibriliwr cyhoeddus newydd, deunyddiau newydd ar gyfer plant ac aelodau ifanc ac wedi sybsideiddio gwisgoedd. Bydd hyn yn lleihau rhwystrau allweddol i gyfranogiad gwirfoddolwyr, yn ogystal â darparu offer i wirfoddolwyr sydd yn gallu achub bywydau.

 

Mae St John Ambulance Cymru yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl Caerfyrddin, trwy hyfforddiant a thriniaeth cymorth cyntaf. Bydd y prosiect adnewyddu yn chwarae rhan enfawr wrth gynnal y gwasanaethau hanfodol hyn a bydd yn helpu’r gwirfoddolwyr i barhau â’n cenhadaeth o sicrhau bod cymorth cyntaf ar gael i bawb, unrhyw bryd, unrhyw le.

 

Yn y seremoni, a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn 27 Ebrill, ail-agorwyd yr adeilad yn swyddogol i'r cyhoedd gan Miss Sara Edwards, Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi yn Nyfed. Bu oedolion, plant ac ieuenctid sy'n wirfoddolwyr i'r elusen yn cyfarch aelodau hŷn yr elusen, ynghyd ag aelodau o’r gymuned ehangach i ddathlu diwedd y prosiect.

 

“Mae’r trawsnewidiad yn yr adeilad wedi bod yn anhygoel, ac mae gweld y cynnydd a’r gwelliannau bob wythnos yn ystod y gwaith adnewyddu wedi bod yn arbennig iawn,” meddai James Cordell, Dirprwy Gomisiynydd Gwirfoddol Sir Dyfed.

 

“Bydd y cyfleuster ar ei newydd wedd, gydag offer newydd a gwedd fodern, yn darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned a gwirfoddoli, wrth wella lles y gymuned ehangach trwy fynediad at gyfleusterau gwell a diogel.

 

“Rydym yn gobeithio y bydd llawer o wirfoddolwyr newydd yn ymuno â St John Ambulance Cymru yng Nghaerfyrddin ac yn gwneud defnydd gwych o’r adeilad gwych hwn.”

 

Mae St John Ambulance Cymru wedi estyn eu diolch i bawb yn Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU am eu cymorth drwy gydol y prosiect, ac mae’n annog y gymuned ehangach i estyn allan os oes ganddynt ddiddordeb mewn ymuno a Is-adran Caerfyrddin fel gwirfoddolwr.

 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddod yn wirfoddolwr gyda'r elusen drwy fynd i: www.sjacymru.org.uk/en/page/volunteer.

 

Published May 14th 2024

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer