Grant donations support Rhayader volunteers’ lifesaving work in rural areas

Lifesaving volunteers in Rhayader have received two substantial grants to help improve their vital services in the region.

The St John Ambulance Cymru Responders received generous funds to complete 4x4 off road driving training, enabling them to safely and confidently reach patients in remote locations. The first aid charity have expressed their thanks to the joint funders; Rhayader Town Council and the Ashley Family Foundation, for their generous support.

The Rhayader Responders work as on-call volunteers across the local area. Calls are triaged from the ambulance service and volunteers are notified of local emergencies. Volunteers are highly trained in assessing the situation and delivering the appropriate treatment, and often do so before the emergency services have arrived. In rural communities where emergency services’ response can take a little longer, this prompt care can save lives.

The St John Ambulance Cymru Responders are called out to emergencies at any time, day or night, in all weather conditions and reaching some areas can be a real challenge. The 4x4 off-road driving training was delivered to six volunteers, giving them the confidence to travel through some these more challenging terrains to reach patients in need.

This training was partly thanks to the Rhayader Town Council’s Bryn Tili Trust Fund. The council uses donations from the Bryn Titli Wind Farm to allocate grants to projects that benefit the local community.

Rhys Thomas, Mayor, and Chair of Rhayader Town Council commented, “The St John Ambulance Cymru Responder Team provide a vital service to our community; the Council were delighted to offer financial support for this important initiative and hope the training received has increased the team’s confidence and ability to respond to incidents in difficult terrain, which is so important in this rural community.”

The project was also partly funded by the Ashley Family Foundation, an organisation which supports a broad range of community and social welfare projects in both England and Wales, especially those in rural communities.

“St John Ambulance Cymru would like to extend our thanks to Rhayader Town Council and the Ashley Family Foundation for their much needed support. Their donations has enabled our lifesaving volunteers to continue to be there, when they are needed most by the local community,” said Nichola Couceiro, Head of Fundraising, Communications and Engagement at the charity.

St John Ambulance Cymru volunteers work tirelessly to ensure communities across Wales are kept as safe as possible. Their work is especially vital in rural communities such as Rhayader. To find out more about their work, please visit www.sjacymru.org.uk.

 


Rhoddion grant yn cefnogi gwaith achub bywyd gwirfoddolwyr Rhaeadr Gwy mewn ardaloedd gwledig

Mae gwirfoddolwyr achub bywyd yn Rhaeadr Gwy wedi derbyn dau grant sylweddol i helpu i wella eu gwasanaethau hanfodol yn y rhanbarth.

Derbyniodd Ymatebwyr St John Ambulance Cymru rodd hael i gwblhau hyfforddiant gyrru 4x4 oddi ar y ffordd, gan eu galluogi i gyrraedd cleifion mewn lleoliadau anghysbell yn ddiogel ac yn hyderus. Mae'r elusen cymorth cyntaf wedi mynegi eu diolch i'r cyd-arianwyr; Cyngor Tref Rhaeadr Gwy a Sefydliad y Teulu Ashley, am eu cefnogaeth garedig.

Mae Ymatebwyr Rhaeadr Gwy yn gweithio fel gwirfoddolwyr ar alwad ar draws yr ardal leol. Mae galwadau'n cael eu brysbennu gan y gwasanaeth ambiwlans a bydd gwirfoddolwyr yn cael gwybod am argyfyngau lleol. Mae gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi’n drylwyr i asesu’r sefyllfa a darparu’r driniaeth briodol, ac yn aml maent yn gwneud hynny cyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd. Mewn cymunedau gwledig lle gall ymateb y gwasanaethau brys gymryd ychydig yn hirach, gall y gofal prydlon hwn achub bywydau.

Mae Ymatebwyr St John Ambulance Cymru yn cael eu galw allan i argyfyngau ar unrhyw adeg, dydd neu nos, ym mhob tywydd a gall cyrraedd rhai ardaloedd fod yn her wirioneddol. Cyflwynwyd yr hyfforddiant gyrru 4x4 oddi ar y ffordd i chwe gwirfoddolwr, gan roi’r hyder iddynt deithio drwy rai o’r tiroedd mwy heriol i gyrraedd cleifion mewn angen.

Roedd yr hyfforddiant hwn yn bosibl yn rhannol, diolch i Gronfa Ymddiriedolaeth Bryn Tili Cyngor Tref Rhaeadr Gwy. Mae'r cyngor yn defnyddio rhoddion gan Fferm Wynt Bryn Titli i ddyrannu grantiau i brosiectau sydd o fudd i'r gymuned leol.

Dywedodd Rhys Thomas, Maer, a Chadeirydd Cyngor Tref Rhaeadr Gwy, “Mae Tîm Ymatebwyr St John Ambulance Cymru yn darparu gwasanaeth hanfodol i'n cymuned; roedd y Cyngor yn falch iawn o gynnig cymorth ariannol ar gyfer y fenter bwysig hon ac yn gobeithio bod yr hyfforddiant a dderbyniwyd wedi cynyddu hyder a gallu’r tîm i ymateb i ddigwyddiadau mewn tir anodd, sydd mor bwysig yn y gymuned wledig hon.”

Ariannwyd y prosiect hefyd yn rhannol gan Sefydliad y Teulu Ashley, sefydliad sy'n cefnogi ystod eang o brosiectau cymunedol a lles cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr, yn enwedig rhai mewn cymunedau gwledig.

“Hoffai St John Ambulance Cymru estyn ein diolch i Gyngor Tref Rhaeadr Gwy a Sefydliad y Teulu Ashley am eu cefnogaeth sydd mawr ei angen. Mae eu rhoddion wedi galluogi ein gwirfoddolwyr achub bywyd i barhau i fod yno, pan mae eu hangen fwyaf gan y gymuned leol,” meddai Nichola Couceiro, Pennaeth Codi Arian, Cyfathrebu ac Ymgysylltu yr elusen.Mae gwirfoddolwyr St John Ambulance Cymru yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod cymunedau ledled Cymru yn cael eu cadw mor ddiogel â phosibl. Mae eu gwaith yn arbennig o hanfodol mewn cymunedau gwledig fel Rhaeadr Gwy. I ddarganfod mwy am eu gwaith, ewch i www.sjacymru.org.uk

 

 

Published October 25th 2023

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer