People of Wales urged to Learn, Locate and Donate during Defibruary

St John Ambulance Cymru’s annual Defibruary campaign is back with a bang, with an aim to train even more people in lifesaving first aid skills during the month of February.

The Defibruary campaign aims to raise awareness of defibrillators and highlights their importance in the community. In Wales, more than 6,000 people a year go into cardiac arrest outside of hospital. 80% of those take place at home.

The first aid charity’s campaign will be kicking off at Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd in Maesteg, where St John Ambulance Cymru will give defibrillator and CPR demonstrations to all 720 pupils, as well as members of staff at the school.

A number of special guests have been invited to come along to help raise awareness and this event is just one of the many demonstration sessions the charity has planned for February.

Darren Murray, Head of Community Operations at St John Ambulance Cymru said:

"We want people to be confident administering CPR and using a defibrillator, so more people have the skills required to save a life if someone near them is in need."

"We’re also encouraging people to sign up to one of St John Ambulance Cymru’s premium first aid courses or arrange a free demonstration session for your school or community group which are taking place throughout February."

The first public events of the campaign will take place at Cardiff’s St Davids Shopping centre, where public demonstrations will be given on Friday 2nd and Saturday 3rd February from 10am to 4pm.

The campaign will also be urging people to learn where the nearest defibrillator to them is located and register any they are responsible for with The Circuit app, so emergency services can direct people to their closest one in an emergency. Visit The Circuit's website to find out more.

Throughout the month, St John Ambulance Cymru is asking for donations to fund new public access defibrillators for their buildings in communities across the country. A defibrillator is a lifesaving piece of equipment, so increasing the number of defibrillators in communities, especially remote, rural communities, can mean the difference between life and death.

St John Ambulance Cymru run the campaign because of people like Joe.

52-year-old Joe Hayward was competing in the Gritfest cycling event with a group of friends last June when he suffered an out-of-the-blue cardiac arrest.

52-year-old Joe Hayward was competing in the Gritfest cycling event with a group of friends last June when he suffered an out-of-the-blue cardiac arrest.

His friends and those nearby quickly realised the situation was extremely serious and began CPR immediately.

St John Ambulance Cymru Responders Jack and Sam received an alert of the nearby incident and immediately made their way to Joe’s location.

The pair assisted with CPR alongside a private medical company and spectators. After 5 shocks from a defibrillator and ongoing CPR, Joe began to breathe again.

The quick action from those around him that day, including the prompt CPR and use of a defibrillator, saved his life.

“Those around him were absolutely determined to help him, and we are so thankful for them,”

said Joe’s wife, Heather.

Joe’s story is one of many. In Wales, the survival rate following an out of hospital cardiac arrest is less than 5%. St John Ambulance Cymru are determined to change that.

Defibrillators save lives every day, and that’s why it’s so important that the people of Wales feel comfortable in locating and using and their nearest one.

You can find out more about the Defibruary campaign and how you can get involved on our Defibruary page.

 

 

Annog pobl Cymru i Ddysgu, Lleoli a rhoi yn ystod ymgyrch ‘Defibruary’

Mae 'Defibruary,' ymgyrch flynyddol St John Ambulance Cymru, yn ôl gyda chlec, gyda’r nod o ddysgu sgiliau cymorth cyntaf achub bywyd i hyd yn oed mwy o bobl mewn yn ystod mis Chwefror.

Nod ymgyrch ‘Defibruary’ yw codi ymwybyddiaeth o ddiffibrilwyr ac amlygu eu pwysigrwydd yn y gymuned. Yng Nghymru, mae mwy na 6,000 o bobl y flwyddyn yn cael ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Mae 80% o'r rhain yn digwydd gartref.

Bydd ymgyrch yr elusen cymorth cyntaf yn cychwyn yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ym Maesteg, lle bydd St John Ambulance Cymru yn rhoi arddangosiadau diffibriliwr a CPR i bob un o’r 720 o ddisgyblion, yn ogystal ag aelodau o staff yr ysgol.

Mae nifer o westeion arbennig wedi’u gwahodd i ddod draw i helpu i godi ymwybyddiaeth ac mae’r digwyddiad hwn yn un o’r sesiynau arddangos niferus y mae’r elusen wedi’u cynllunio ar gyfer mis Chwefror.

Dywedodd Darren Murray, Pennaeth Gweithrediadau Cymunedol St John Ambulance Cymru:

“Rydym am i bobl fod yn hyderus wrth weinyddu CPR a defnyddio diffibriliwr, i sicrhau fod gan fwy o bobl y sgiliau sydd eu hangen i achub bywyd os oes rhywun yn agos atynt mewn angen.“

“Rydym hefyd yn annog pobl i gofrestru ar gyfer un o gyrsiau cymorth cyntaf premiwm St John Ambulance Cymru neu drefnu sesiwn arddangos i’ch ysgol neu grŵp cymunedol a gynhelir trwy gydol mis Chwefror am ddim.”

Bydd digwyddiadau cyhoeddus cyntaf yr ymgyrch yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant yng Nghaerdydd, lle bydd arddangosiadau cyhoeddus yn cael eu cynnal ddydd Gwener 2 a dydd Sadwrn 3 Chwefror rhwng 10am a 4pm.

Bydd yr ymgyrch hefyd yn annog pobl i ddysgu ble mae'r diffibriliwr agosaf atynt a chofrestru unrhyw rai y maent yn gyfrifol amdanynt gydag ap The Circuit, fel y gall y gwasanaethau brys gyfeirio pobl at yr un agosaf atynt mewn argyfwng. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan The Circuit.

Drwy gydol y mis, mae St John Ambulance Cymru yn gofyn am roddion i ariannu diffibrilwyr mynediad cyhoeddus newydd ar gyfer eu hadeiladau mewn cymunedau ledled y wlad. Mae diffibriliwr yn ddarn o offer achub bywyd, felly gall cynyddu nifer y diffibrilwyr mewn cymunedau, yn enwedig cymunedau anghysbell, gwledig, olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.

Mae St John Ambulance Cymru yn rhedeg yr ymgyrch oherwydd pobl fel Joe.

Roedd Joe Hayward, 52 oed, yn cystadlu yn nigwyddiad seiclo Gritfest gyda grwp o ffrindiau fis Mehefin diwethaf pan ddioddefodd ataliad y galon yn ddirybudd.

Roedd Joe Hayward, 52 oed, yn cystadlu yn nigwyddiad seiclo Gritfest gyda grwp o ffrindiau fis Mehefin diwethaf pan ddioddefodd ataliad y galon yn ddirybudd.

Sylweddolodd ei ffrindiau a'r rhai cyfagos yn gyflym fod y sefyllfa'n ddifrifol iawn a dechreuodd CPR ar unwaith.

Derbyniodd Jack a Sam, Ymatebwyr St John Ambulance Cymru, rybudd o’r argyfwng cyfagos ac aethant ar unwaith i leoliad Joe.

Cynorthwyodd y pâr gyda CPR ochr yn ochr â chwmni meddygol preifat a gwylwyr. Ar ôl 5 sioc o ddiffibriliwr a CPR parhaus, dechreuodd Joe anadlu eto.

Fe wnaeth y gweithredu cyflym gan y rhai o'i gwmpas y diwrnod hwnnw, gan gynnwys y CPR prydlon a'r defnydd o ddiffibriliwr, achub ei fywyd.

“Roedd y rhai o’i gwmpas yn hollol benderfynol o’i helpu, ac rydym mor ddiolchgar amdanyn nhw,”

meddai Heather, gwraig Joe.

Dim ond un o nifer yw stori Joe. Yng Nghymru mae'r gyfradd goroesi yn dilyn ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn llai na 5%. Mae St John Ambulance Cymru yn benderfynol o newid hynny.

Mae diffibrilwyr yn achub bywydau bob dydd, a dyna pam ei bod mor bwysig bod pobl Cymru’n teimlo’n gyfforddus yn lleoli a defnyddio’r un agosaf iddynt.

Gallwch ddarganfod mwy am yr ymgyrch ‘Defibruary’ a sut y gallwch chi gymryd rhan ar ein tudalen 'Defibruary'.

Published January 24th 2024

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer