St John Ambulance Cymru and National Grid working together to share lifesaving knowledge in South Wales schools

St John Ambulance Cymru and National Grid Electricity Distribution are working together to ensure young people in South Wales are taught invaluable safety information this year.

 

National Grid is sponsoring the running costs of demonstrations in 20 schools and youth groups in its South Wales distribution area, which will be delivered by the first aid charity for Wales between January and April 2024.

 

Young people will learn important skills that could help save a life such as CPR, defibrillator awareness, choking response and the recovery position. They will also learn about various electrical hazards and how to avoid electricity-related accidents.

 

The first of these sessions took place at St Illtyd’s Catholic High School based in Rumney, Cardiff, with a group of year 8 students. The young people listened to National Grid’s electrical safety talk before learning the basics of first aid and having a practice with the CPR dummies. The students loved the session with St John Ambulance Cymru Trainer, Lesa, and National Grid representative, Jacob.

 

St John Ambulance Cymru runs free first aid demonstrations in schools and community groups all year round and the National Grid’s sponsorship is helping both organisations share lifesaving knowledge with even more young people in Wales.

 

Nichola Coucerio, Head of Fundraising, Engagement and Communications at St John Ambulance Cymru commented: 

“We are delighted to be partnering with National Grid on this important project, which is educating children on how to stay safe and save lives.

 

“At St John Ambulance Cymru we want every young person to have the skills and confidence to save a life, just in case an emergency should happen, and our free schools and community awareness sessions are one way that we are working towards this goal.

 

“We can't do this without our generous supporters and we are very grateful to National Grid for partnering with us to deliver schools sessions in South Wales across the next few months.”

 

Nick South, Education and STEM Manager at National Grid Electricity Distribution also commented:

“We are thrilled to offer our support to St John Ambulance Cymru.  Our safety messages are designed to help people avoid potential dangers around the electricity network and St John Ambulance Cymru take it the extra mile by teaching lifesaving skills that can be utilised in an emergency.

 

“This perfect partnership supports our ongoing commitment to educate children on electrical safety whilst helping to grow our relationship with local schools and the wider community.”

 

You can find out more St John Ambulance Cymru’s lifesaving work in the communities of Wales by visiting www.sjacymru.org.uk.

You can also find out about National Grid Electricity Distribution, the electricity distribution network operator for South Wales, South West and the Midlands at www.nationalgrid.co.uk.

 

 

Photographs from the first aid session at St Illtyd’s Catholic High School.

 


 

St John Ambulance Cymru a'r Grid Cenedlaethol yn cydweithio i rannu gwybodaeth achub bywyd yn ysgolion De Cymru

 

Mae St John Ambulance Cymru  a Dosbarthiad Trydan y Grid Cenedlaethol yn cydweithio i sicrhau bod pobl ifanc yn Ne Cymru yn cael eu haddysgu am wybodaeth diogelwch amhrisiadwy eleni.

 

Mae’r Grid Cenedlaethol yn noddi costau cynnal arddangosiadau mewn 20 o ysgolion a grwpiau ieuenctid yn ei ardal ddosbarthu yn Ne Cymru, a fydd yn cael ei darparu gan elusen cymorth cyntaf Cymru rhwng Ionawr ac Ebrill 2024.

 

Bydd pobl ifanc yn dysgu sgiliau pwysig a allai helpu i achub bywyd fel CPR, ymwybyddiaeth o ddiffibriliwr, ymateb i dagu a'r sefyllfa adfer. Byddant hefyd yn dysgu am wahanol beryglon trydanol a sut i osgoi damweiniau sy'n gysylltiedig â thrydan.

 

Cynhaliwyd y cyntaf o’r sesiynau hyn yn Ysgol Uwchradd Gatholig Illtyd Sant yn Nhredelerch, Caerdydd, gyda grŵp o fyfyrwyr blwyddyn 8. Gwrandawodd y bobl ifanc ar sgwrs diogelwch trydanol y Grid Cenedlaethol cyn dysgu hanfodion cymorth cyntaf a chael ymarfer gyda dymis CPR. Roedd y myfyrwyr wrth eu bodd yn y sesiwn gyda Hyfforddwr St John Ambulance Cymru , Lesa, a chynrychiolydd y Grid Cenedlaethol, Jacob.

 

Mae St John Ambulance Cymru  yn cynnal arddangosiadau cymorth cyntaf am ddim mewn ysgolion a grwpiau cymunedol trwy gydol y flwyddyn ac mae nawdd y Grid Cenedlaethol yn helpu’r ddau sefydliad i rannu gwybodaeth achub bywyd gyda hyd yn oed mwy o bobl ifanc yng Nghymru.

 

Dywedodd Nichola Coucerio, Pennaeth Codi Arian, Ymgysylltu a Chyfathrebu St John Ambulance Cymru : 

“Rydym yn falch iawn o fod yn bartner y Grid Cenedlaethol yn y prosiect pwysig hwn, sydd yn dysgu plant sut i gadw’n ddiogel ac achub bywydau.

 

“Mae St John Ambulance Cymru eisiau i bob person ifanc dysgu’r sgiliau a’r hyder i achub bywyd, rhag ofn i argyfwng ddigwydd, ac mae ein sesiynau ymwybyddiaeth am ddim i ysgolion a grwpiau cymunedol yn un ffordd rydyn ni’n gweithio tuag at y nod hwn.

 

“Ni allwn wneud hyn heb ein cefnogwyr hael ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r Grid Cenedlaethol am weithio mewn partneriaeth â ni i gyflwyno sesiynau ysgolion yn Ne Cymru dros y misoedd nesaf.”

 

Dywedodd Nick South, Rheolwr Addysg a STEM gyda Dosbarthiad Trydan y Grid Cenedlaethol: 

“Rydym wrth ein bodd yn cynnig ein cefnogaeth i St John Ambulance Cymru . Mae ein negeseuon diogelwch wedi'u cynllunio i helpu pobl i osgoi peryglon posibl o amgylch y rhwydwaith trydan ac mae St John Ambulance Cymru  yn mynd yr ail filltir trwy ddysgu sgiliau achub bywyd y gellir eu defnyddio mewn argyfwng.

 

“Mae’r bartneriaeth berffaith hon yn dangos ein hymrwymiad parhaus i addysgu plant am ddiogelwch trydanol wrth helpu i dyfu ein perthynas ag ysgolion lleol a’r gymuned ehangach.”

 

Gallwch ddarganfod mwy am waith achub bywyd St John Ambulance Cymru  yng nghymunedau Cymru drwy fynd i www.sjacymru.org.uk.

Gallwch hefyd gael gwybodaeth am Ddosbarthiad Trydan y Grid Cenedlaethol, gweithredwr rhwydwaith dosbarthu trydan De Cymru, De Orllewin a Chanolbarth Lloegr drwy fynd i www.nationalgrid.co.uk.

Published February 7th 2024

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer