St John Ambulance Cymru announces new trustees to its Board

St John Ambulance Cymru are pleased to announce the appointment of three new trustees to support the charity to achieve its mission to enhance the health and wellbeing of communities in Wales.

Gillian Knight, Rhys Jenkins and Professor Jean White CBE MStJ will serve a three year term, and alongside the rest of the Board, they will be responsible for ensuring that St John Ambulance Cymru is properly governed, financially stable and uses resources appropriately.

Gillian Knight is a Nursing Officer at the Office of the Chief Nursing Officer (OCNO), Welsh Government. Gill has worked in the Welsh NHS for over 27 years after moving to Wales from her native Ireland. She now supports the Chief Nursing Officer providing professional advice on workforce, regulation and broader professional policy. She enjoys running, cycling, and is a PADI certified deep sea diver.

Rhys Jenkins has practiced as a Barrister at Colleton Chambers since 2019, focusing on Family Law and Civil Law across the South West. Rhys has experience of being a Trustee at Cardiff University and the Cardiff University Students’ Union. With a background in higher education, quality assurance and students, Rhys is hoping to assist with the continued development of a learning culture that embraces diversity at St John Ambulance Cymru.

Professor Jean White CBE MStJ has enjoyed a successful career in nursing, with experience working as a theatre nurse, nurse academic, regulator, and professional adviser to UK and European governments and World Health Organisation. She was the Chief Nursing Officer for Wales from 2010-2021. Since retiring from the civil service, she now undertakes a range of voluntary and governance roles and is currently the High Sheriff of Mid Glamorgan County.

Paul Griffiths, Prior for Wales and Board Chair said,

“Being a trustee at St John Ambulance Cymru is about being part of a hugely respected Welsh charity which has been dedicated to saving lives and treating the sick and injured in our communities for over a hundred years.

We are delighted to welcome Gillian, Rhys, and Jean on board as we look towards the future and begin to deliver on the commitments we laid out in our Strategy 2025.

I’m confident that they’ll be strong advocates for the charity and our work and I am very much looking forward to working with them closely to deliver our vision of first aid for everyone, anytime, anywhere.”

You can find out more about our Trustees here.

*********************

Mae St John Ambulance Cymru yn falch o gyhoeddi penodiad tri ymddiriedolwr newydd i gefnogi'r elusen i gyflawni ei chenhadaeth i wella iechyd a lles cymunedau yng Nghymru.

Bydd Gillian Knight, Rhys Jenkins a’r Athro Jean White CBE MStJ yn gwasanaethu am dymor o dair blynedd, ac ochr yn ochr â gweddill y Bwrdd, byddant yn gyfrifol am sicrhau bod St John Ambulance Cymru yn cael ei lywodraethu’n briodol, yn sefydlog yn ariannol ac yn defnyddio adnoddau’n briodol.

Mae Gillian Knight yn Swyddog Nyrsio yn Swyddfa’r Prif Swyddog Nyrsio (OCNO), Llywodraeth Cymru. Mae Gill wedi gweithio yn y GIG yng Nghymru ers dros 27 mlynedd ar ôl symud i Gymru o Iwerddon enedigol. Mae hi bellach yn cefnogi’r Prif Swyddog Nyrsio gan ddarparu cyngor proffesiynol ar y gweithlu, rheoleiddio a pholisi proffesiynol ehangach. Mae hi'n mwynhau rhedeg, beicio, ac mae'n ddeifiwr môr dwfn ardystiedig PADI.

Mae Rhys Jenkins wedi bod yn Fargyfreithiwr yn Siambrau Colleton ers 2019, gan ganolbwyntio ar Gyfraith Teulu a Chyfraith Sifil ar draws y De Orllewin. Mae gan Rhys brofiad o fod yn Ymddiriedolwr ym Mhrifysgol Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Gyda chefndir mewn addysg uwch, sicrhau ansawdd a myfyrwyr, mae Rhys yn gobeithio cynorthwyo gyda datblygiad parhaus diwylliant dysgu sy’n cofleidio amrywiaeth yn St John Ambulance Cymru.

Mae’r Athro Jean White CBE MStJ wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus ym myd nyrsio, gyda phrofiad o weithio fel nyrs theatr, academydd nyrsio, rheolydd, a chynghorydd proffesiynol i lywodraethau’r DU ac Ewrop a Sefydliad Iechyd y Byd. Hi oedd Prif Swyddog Nyrsio Cymru rhwng 2010 a 2021. Ers ymddeol o’r gwasanaeth sifil, mae hi bellach yn ymgymryd ag amrywiaeth o rolau gwirfoddol a llywodraethu ac ar hyn o bryd hi yw Uchel Siryf Sir Morgannwg Ganol.

Dywedodd Paul Griffiths, Prior Cymru a Chadeirydd y Bwrdd,

“Mae bod yn ymddiriedolwr yn St John Ambulance Cymru yn ymwneud â bod yn rhan o elusen Gymreig uchel ei pharch sydd wedi bod yn ymroddedig i achub bywydau a thrin y sâl a’r anafedig yn ein cymunedau ers dros gan mlynedd.

Mae’n bleser gennym groesawu Gillian, Rhys, a Jean i ymuno â ni wrth inni edrych tua’r dyfodol a dechrau cyflawni’r ymrwymiadau a nodwyd gennym yn ein Strategaeth 2025.

Rwy’n hyderus y byddant yn eiriolwyr cryf dros yr elusen a’n gwaith ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio’n agos gyda nhw i gyflawni ein gweledigaeth o gymorth cyntaf i bawb, unrhyw bryd, unrhyw le.”

Gallwch ddarganfod mwy am ein Hymddiriedolwyr yma.

Published July 11th 2023

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer