St John Ambulance Cymru launches new podcast sharing powerful first aid stories

Just in Case Stories from St John Podcast Episode 1 - Sam Cook (L) and Chris Edwards (R).png

St John Ambulance Cymru is proud to announce the launch of its brand-new podcast, Just in Case: Stories from St John — a powerful new series that shines a light on real lives saved and the volunteers, medics and first aiders behind those moments.

Hosted by the charity’s Partnership and Relationship Manager Sam Cook, the podcast offers an honest look at what happens when someone suddenly needs urgent help and how first aid can make all the difference. From heart-stopping rescues to inspiring personal journeys, each episode tells a true story of lives changed forever.

The debut episode features Chris Edwards, a runner who collapsed just metres from the finish line of the Porthcawl 10K after suffering a sudden cardiac arrest. Thanks to the fast actions of St John Ambulance Cymru volunteers, including CPR and the use of a defibrillator, Chris survived. His story is a powerful reminder of the charity’s lifesaving impact.

Future episodes will include interviews with dedicated volunteers, many of whom have remarkable stories of their own about how and why they got involved with the charity. The podcast will also feature conversations with individuals and organisations who champion the importance of learning first aid, aiming to inspire more people across Wales to gain vital lifesaving skills.

Speaking about the podcast launch, Richard Lee, Chief Executive of St John Ambulance Cymru, said:

“Our St John People are out and about in your community every day, providing falls services and mental health, and GP support services on behalf of the NHS. Our youth services are developing the next generation of healthcare providers, whilst we are training 30,000 people in first aid each year and providing cover at 1000 events.

"I'm looking forward to our new podcast showcasing this work, and what better way to start than by hearing about a life saved by our St John People.”

Just in Case: Stories from St John is available on all major podcast platforms, including Spotify and Apple Podcasts, with new episodes set to release every month. St John Ambulance Cymru provides lifesaving support at events across Wales and delivers first aid training to people of all ages. To get involved, book training, or support their work, visit www.sjacymru.org.uk. 

To listen on Apple Podcasts go to: https://podcasts.apple.com/us/podcast/just-in-case-stories-from-st-john/id1830427277

To listen on Spotify visit: https://open.spotify.com/show/05SXgJnpuJ2oX176hzSAcq

 

St John Ambulance Cymru yn lansio podlediad newydd i rannu straeon cymorth cyntaf pwerus

Mae St John Ambulance Cymru yn falch o gyhoeddi lansiad ei bodlediad newydd sbon, Just in Case: Stories from St John — cyfres newydd bwerus sy'n taflu goleuni ar fywydau a achubwyd a'r gwirfoddolwyr, meddygon a'r gweithwyr cymorth cyntaf y tu ôl i'r eiliadau hynny.

Wedi'i gyflwyno gan Reolwr Partneriaeth a Pherthynas yr elusen, Sam Cook, mae'r podlediad yn cynnig golwg onest ar yr hyn sy'n digwydd pan fydd rhywun angen cymorth brys yn sydyn, a sut y gall cymorth cyntaf wneud gwahaniaeth mawr. O straen calonogol am fywydau yn cael ei achub, i deithiau personol ysbrydoledig, mae pob pennod yn adrodd stori wir am fywydau wedi newid am byth.

Mae'r bennod gyntaf yn cynnwys sgwrs gyda Chris Edwards, rhedwr a gwympodd ychydig fetrau o linell derfyn 10K Porthcawl ar ôl dioddef ataliad ar y galon sydyn. Diolch i gamau cyflym gwirfoddolwyr St John Ambulance Cymru, gan gynnwys CPR a defnyddio diffibriliwr, goroesodd Chris. Mae ei stori yn atgof pwerus o effaith achub bywyd yr elusen.

Bydd penodau yn y dyfodol yn cynnwys cyfweliadau â gwirfoddolwyr ymroddedig, ac mae gan lawer ohonynt straeon rhyfeddol eu hunain am sut a pham y gwnaethon nhw ymwneud â'r elusen. Bydd y podlediad hefyd yn cynnwys sgyrsiau ag unigolion a sefydliadau sy'n hyrwyddo pwysigrwydd dysgu cymorth cyntaf, gyda'r nod o ysbrydoli mwy o bobl ledled Cymru i ddysgu sgiliau achub bywyd hanfodol.

Wrth siarad am lansiad y podlediad, dywedodd Richard Lee, Prif Weithredwr St John Ambulance Cymru:

“Mae ein Pobl St John allan yn eich cymuned bob dydd, yn darparu gwasanaethau cwympiadau ac iechyd meddwl, a gwasanaethau cymorth meddygon teulu ar ran y GIG. Mae ein gwasanaethau ieuenctid yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o ddarparwyr gofal iechyd, tra ein bod yn hyfforddi 30,000 o bobl mewn cymorth cyntaf bob blwyddyn ac yn darparu cymorth cyntaf ar gyfer 1,000 o ddigwyddiadau.

“Rwy’n edrych ymlaen at sut fydd ein podlediad newydd yn arddangos y gwaith hwn, a pha ffordd well o ddechrau na thrwy glywed am fywyd a achubwyd gan ein Pobl St John.”

Mae Just in Case: Stories from St John ar gael ar bob prif blatfform podlediadau, gan gynnwys Spotify ac Apple Podcasts, gyda phenodau newydd yn cael eu rhyddhau bob mis. Mae St John Ambulance Cymru yn darparu cymorth achub bywyd mewn digwyddiadau ledled Cymru ac yn cyflwyno hyfforddiant cymorth cyntaf i bobl o bob oed. I gymryd rhan, archebu hyfforddiant, neu gefnogi ei gwaith, ewch i www.sjacymru.org.uk.

I wrando ar Apple Podcasts ewch i: https://podcasts.apple.com/us/podcast/just-in-case-stories-from-st-john/id1830427277

I wrando ar Spotify ewch i: https://open.spotify.com/show/05SXgJnpuJ2oX176hzSAcq

Published August 1st 2025

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer