St John Ambulance Cymru’s Defibruary campaign aims to create thousands more lifesavers like Dave

Today marks the start of St John Ambulance Cymru’s annual Defibruary campaign, which aims to raise defibrillator awareness in communities across Wales.

Following a cardiac arrest, a person’s chances of survival are reduced by 10% for every passing minute without action. The first aid charity for Wales wants more people across the country to feel confident in locating and using their nearest defibrillator, so more lives can be saved.

Before learning first aid skills with the charity, St John Ambulance Cymru volunteer Dave High never imagined he would be able to save a life, but last year at the International Musical Eisteddfod in Llangollen, he did exactly that.

In July 2023, Dave was volunteering at the music event when a member of the public went into cardiac arrest. He used the skills he had learnt with St John Ambulance Cymru to help save the gentleman’s life using CPR and a defibrillator. 

The elderly gentleman had collapsed in the car park outside the event towards the end of the concert. The gentleman’s wife and those nearby quickly realised he was unresponsive and called for help. Luckily, an off-duty healthcare professional visiting the Eisteddfod was nearby and began CPR immediately. Dave and a member of his volunteer team, Cassie, promptly made their way to the scene to assist with resuscitation.

After several rounds of CPR from volunteers and the off-duty healthcare professional, and various shocks from a defibrillator, the patient began breathing again.

“From a person that does not work in the medical field at all, it was the scariest but most satisfying thing I have ever done” he said. “Two years ago, I would never have thought I would even be going to the Eisteddfod, never mind saving a life while wearing a uniform that I am so proud to be able to wear.”

Dave added:

“When the worst happened, I didn’t overthink, I didn’t hesitate, there was no feeling of ‘I hope I don't mess this up’.”

He just followed his training and successfully saved a life.

This February the charity is asking the people of Wales to Learn, Locate and Donate so they too can step in to help save a life should someone near them need help.

St John Ambulance Cymru is running free first aid demonstrations for schools, community groups and clubs throughout the month and is urging people to reach out and arrange a session. For more in-depth first aid knowledge, you can also book onto an certified workplace first aid course with their team of premium trainers.

Learning how to quickly and confidently deliver CPR and use a defibrillator could mean the difference between life and death, just like it did with Dave.

The first public events of the campaign will take place at Cardiff’s St Davids Shopping centre, where public demonstrations will be given on Friday 2nd and Saturday 3rd February from 10am to 4pm.

The first aid charity is also urging the people of Wales to locate their nearest defibrillator and register any they are responsible for with The Circuit. The Circuit is the national defibrillator network, which the emergency services use to direct people in an emergency. Visit http://www.thecircuit.uk to locate or register your nearest one today.

The Defibruary campaign is also fundraising for new public access defibrillators on St John Ambulance Cymru Divisional buildings across Wales. As well as acting as community bases for the charity’s volunteers, Divisional buildings are also used for various training and community purposes.

If you’d like to find out more about the Defibruary campaign, please visit www.sjacymru.org.uk/defibruary to arrange a course or make a donation today.

St John Ambulance Cymru Volunteer Dave High wearing his green St John Ambulance uniform with pride

 

St John Ambulance Cymru yn anelu at greu miloedd yn fwy o achubwyr bywyd fel Dave yn ystod ymgyrch ‘Defibruary’

Mae heddiw’n nodi dechrau ‘Defibruary’, ymgyrch flynyddol St John Ambulance Cymru, sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o ddiffibrilwyr mewn cymunedau ledled Cymru.

Yn dilyn ataliad y galon, mae siawns person o oroesi yn cael ei leihau 10% am bob munud sy'n mynd heibio heb weithredu. Mae elusen cymorth cyntaf Cymru eisiau i fwy o bobl ledled y wlad deimlo’n hyderus wrth leoli a defnyddio eu diffibriliwr agosaf, er mwyn i fwy o fywydau gael eu hachub.

Cyn iddo ddysgu sgiliau cymorth cyntaf gyda’r elusen, ni ddychmygodd Dave High, gwirfoddolwr St John Ambulance Cymru, y byddai’n gallu achub bywyd, ond y llynedd yn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol yn Llangollen, fe wnaeth yn union hynny.

Ym mis Gorffennaf 2023, roedd Dave yn gwirfoddoli yn y digwyddiad cerddol pan wnaeth aelod o'r cyhoedd ddioddef ataliad y galon. Defnyddiodd y sgiliau yr oedd wedi’u dysgu gydag St John Ambulance Cymru i helpu i achub bywyd y gŵr gan ddefnyddio CPR a diffibriliwr.

Roedd y gŵr oedrannus wedi llewygu yn y maes parcio y tu allan i’r digwyddiad tua diwedd y cyngerdd. Galwodd gwraig y gŵr a’r rhai gerllaw am help yn gyflym ar sylwi roedd y dyn yn anymatebol. Yn ffodus, roedd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol nad oedd ar ddyletswydd yn ymweld â’r Eisteddfod gerllaw, a dechreuodd CPR ar unwaith. Aeth Dave ac aelod o'i dîm gwirfoddol, Cassie, i'r lleoliad yn gyflym i helpu gyda dadebru.

Ar ôl sawl rownd o CPR gan wirfoddolwyr a'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol nad oedd ar ddyletswydd, a siociau amrywiol gan ddiffibriliwr, dechreuodd y claf i anadlu.

“Fel person sydd ddim yn gweithio yn y maes meddygol o gwbl, dyna oedd y peth mwyaf brawychus ond mwyaf boddhaus i mi ei wneud erioed” meddai.

“Dwy flynedd yn ôl, fyddwn i byth wedi meddwl y byddwn i hyd yn oed yn mynd i’r Eisteddfod, heb sôn am achub bywyd wrth wisgo gwisg yr wyf mor falch o allu ei gwisgo.”

Ychwanegodd Dave:

“Pan ddigwyddodd y gwaethaf, wnes i ddim gor-feddwl, wnes i ddim oedi, doedd dim teimlad o ‘Rwy’n gobeithio na fyddaf yn gwneud llanast o hyn’.”

Yn syml, dilynodd ei hyfforddiant ac o ganlyniad, achubodd fywyd yn llwyddiannus.

Ym mis Chwefror eleni mae'r elusen yn gofyn i bobl Cymru Ddysgu, Lleoli a Rhoi fel y gallant hefyd gamu i mewn i helpu i achub bywyd pe bai rhywun yn agos atynt angen cymorth.

Mae St John Ambulance Cymru yn cynnal arddangosiadau cymorth cyntaf am ddim i ysgolion, grwpiau cymunedol a chlybiau trwy gydol y mis ac mae'n annog pobl i estyn allan a threfnu sesiwn. I gael gwybodaeth fanylach am gymorth cyntaf, gallwch hefyd archebu lle ar gwrs cymorth cyntaf ardystiedig yn y gweithle gyda'u tîm o hyfforddwyr premiwm.

Gallai dysgu sut i gyflwyno CPR yn gyflym ac yn hyderus a defnyddio diffibriliwr, olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth, yn union fel y gwnaeth gyda Dave.

Bydd digwyddiadau cyhoeddus cyntaf yr ymgyrch yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant yng Nghaerdydd, lle bydd arddangosiadau cyhoeddus yn cael eu cynnal ddydd Gwener 2 a dydd Sadwrn 3 Chwefror rhwng 10am a 4pm.

Mae'r elusen cymorth cyntaf hefyd yn annog pobl Cymru i ddod o hyd i'w diffibriliwr agosaf a chofrestru unrhyw un y maent yn gyfrifol amdano gyda The Circuit. The Circuit yw'r rhwydwaith diffibriliwr cenedlaethol y mae'r gwasanaethau brys yn ei ddefnyddio i gyfeirio pobl mewn argyfwng. Ewch i http://www.thecircuit.uk i leoli neu gofrestru eich un agosaf heddiw.

Mae'r ymgyrch Defibruary hefyd yn codi arian ar gyfer diffibrilwyr cyhoeddus newydd ar adeiladau Adrannol St John Ambulance Cymru ledled Cymru. Yn ogystal â gweithredu fel canolfannau cymunedol ar gyfer gwirfoddolwyr yr elusen, mae'r adeiladau Adrannol hefyd yn cael eu defnyddio at ddibenion hyfforddi a chymunedol amrywiol.

Os hoffech chi ddarganfod mwy am ymgyrch Defibruary, ewch i www.sjacymru.org.uk/defibruary  i drefnu cwrs neu i wneud cyfraniad heddiw.

Published February 1st 2024

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer