The community coming together to fund lifesaving defibrillator for local events

The Narberth and Whitland Rotary Club has recently donated a generous £500 towards a new defibrillator for the first aid charity for Wales, St John Ambulance Cymru. The local St John Ambulance Cymru division have been running a fundraising appeal for a new defibrillator to bring along to local events they support. Volunteers provide first aid cover at a range of different events in the Pembrokeshire and Carmarthenshire areas, ensuring help is nearby if someone falls ill. Various community groups and businesses from the whole region have donated to the charity as part of their appeal, helping to fund a vital defibrillator to make community events safer places for all.

 

The Rotary Club were happy to contribute towards the appeal as their relationship with the local St John Ambulance Cymru divisions has been long standing. Volunteers have supported many of the club’s events over the years, including their annual summer concert.

Phil Thompson, President of the Club commented, “Here at the Narberth and Whitland Rotary Club, we are more than happy to be donating towards a new defibrillator for the area. We recognise that this piece of equipment is extremely important and can save lives.

 

We are thankful to St John Ambulance Cymru for the support they show our community and we’re glad to be supporting them with this appeal.”

 

Following a cardiac arrest, a person’s chances of survival are reduced dramatically for every passing minute without action. The quicker a defibrillator is on the scene, the more chance a life can be saved.

 

St John Ambulance Cymru advocate for defibrillator awareness and access. The organisation teaches lifesaving skills like CPR and defibrillator use for free to schools and community groups, along with providing vital first aid cover at key events on both a local and a national scale.

 

With the support of groups like the Narberth and Whitland Rotary Club, St John Ambulance Cymru can continue to be there for people in the community who need it most.

 

If you’d like to support St John Ambulance Cymru’s lifesaving work in communities across Wales, then please visit www.sjacymru.org.uk/en/page/donate to make a donation.

 

If you are interested in finding out more about St John Ambulance Cymru’s free community training courses, then please visit www.sjacymru.org.uk/en/courses/list/GPC or contact training@sjacymru.org.uk.

 

May be an image of 3 people and text

Phil Thompson, Narberth and Whitland Rotary Club President with James Cordell, volunteer at St John Ambulance Cymru.

 


 

Y gymuned yn dod at ei gilydd i ariannu diffibriliwr achub bywyd ar gyfer digwyddiadau lleol

 

Yn ddiweddar mae Clwb Rotari Arberth a Hendy-gwyn wedi rhoi £500 hael tuag at ddiffibriliwr newydd ar gyfer elusen cymorth cyntaf Cymru, St John Ambulance Cymru. Mae adran leol St John Ambulance Cymru wedi bod yn cynnal apêl codi arian ar gyfer diffibriliwr newydd i ddod ag ef i ddigwyddiadau lleol y maent yn eu cefnogi. Mae gwirfoddolwyr yn darparu cymorth cyntaf mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau gwahanol yn ardaloedd Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, gan sicrhau bod cymorth gerllaw os bydd rhywun yn mynd yn sâl. Mae grwpiau cymunedol a busnesau amrywiol o’r rhanbarth cyfan wedi cyfrannu at yr elusen fel rhan o’u hapêl, gan helpu i ariannu diffibriliwr hanfodol i wneud digwyddiadau cymunedol yn lleoedd mwy diogel i bawb.

 

Roedd y Clwb Rotari yn hapus i gyfrannu at yr apêl gan fod eu perthynas ag adrannau lleol St John Ambulance Cymru wedi bod yn hirsefydlog. Mae gwirfoddolwyr wedi cefnogi llawer o ddigwyddiadau’r clwb dros y blynyddoedd, gan gynnwys eu cyngerdd haf blynyddol.

Dywedodd Phil Thompson, Llywydd y Clwb, “Yma yng Nghlwb Rotari Arberth a Hendy-gwyn, rydym yn fwy na pharod i fod yn cyfrannu tuag at ddiffibriliwr newydd ar gyfer yr ardal. Rydym yn cydnabod bod y darn hwn o offer yn hynod bwysig a gall achub bywydau.

 

Rydym yn ddiolchgar i St John Ambulance Cymru am y gefnogaeth y maent yn ei ddangos i’n cymuned ac rydym yn falch o fod yn eu cefnogi gyda’r apêl hon.”

 

Yn dilyn ataliad ar y galon, mae siawns person o oroesi yn cael ei leihau'n sylweddol am bob munud sy'n mynd heibio heb weithredu. Po gyflymaf y bydd diffibriliwr ar y safle, y mwyaf o siawns y gellir achub bywyd.

 

Mae St John Ambulance Cymru yn eiriol dros ymwybyddiaeth a mynediad diffibriliwr. Mae’r sefydliad yn addysgu sgiliau achub bywyd fel CPR a defnydd diffibriliwr am ddim i ysgolion a grwpiau cymunedol, ynghyd â darparu cymorth cyntaf hanfodol mewn digwyddiadau allweddol ar raddfa leol a chenedlaethol.

 

Gyda chefnogaeth grwpiau fel Chlwb Rotari Arberth a Hendy-gwyn, gall St John Ambulance Cymru barhau i fod yno i bobl yn y gymuned sydd ei angen fwyaf.

 

Os hoffech gefnogi gwaith achub bywyd St John Ambulance Cymru mewn cymunedau ledled Cymru, ewch i www.sjacymru.org.uk/cy/page/donate i wneud cyfraniad.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am gyrsiau hyfforddi cymunedol rhad ac am ddim St John Ambulance Cymru, yna ewch i www.sjacymru.org.uk/cy/cyrsiau/list/GPC neu cysylltwch â training@sjacymru.org.uk.

Published August 9th 2023

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer