According to research just under one third of people in Wales would have the confidence to help someone in cardiac arrest, a statistic that St John Ambulance Cymru want to improve to ensure that more lives are saved.
As Wales' leading first aid charity, our vision is for people to get the first aid they need anytime, anywhere by increasing people’s confidence to react in an emergency by teaching vital first aid skills which could save a life.
Our training can mean the difference between a life lost and a life saved, and so we’re proud to launch our annual Save a Life September campaign to give people in communities across Wales the opportunity to learn vital first aid skills for free.
Our two-hour first aid awareness training sessions have already given thousands of people the first aid skills they need to save a life, by teaching basic skills like performing CPR, assisting someone who is choking, treating severe bleeding and putting someone into the recovery position.
Darren Murray, St John Ambulance Cymru Head of Community Operations, said; “An emergency can strike with little warning, at St John Ambulance Cymru we are passionate about providing as many people as possible with the opportunity to learn, or refresh, the skills needed to help others.
Save a Life September is a fantastic opportunity to get involved and become more confident of what to do. Learning first aid can mean the difference between a life saved, and a life lost. We very much look forward to seeing as many people as possible at these free events.”
When you attend you’ll also be awarded a St John Ambulance Cymru certificate to acknowledge your new lifesaving skills.
This year there will be Save a Life September events in Cardiff at the Red Dragon Centre on Saturday 10th September between 10am – 4pm, and at St David’s Shopping Centre on Friday 23rd and Saturday 24thth September between 8am – 5pm. You can search for events near you by typing your postcode into the search bar on our website https://training.stjohnwales.org.uk/course/CFAA
Dysgwch sut i Achub Bywyd fis Medi yma
Yn ôl ymchwil byddai ychydig llai na thraean o bobl Cymru â’r hyder i helpu rhywun sydd mewn ataliad ar y galon, ystadegyn y mae St John Ambulance Cymru am ei wella er mwyn sicrhau bod rhagor o fywydau’n cael eu hachub.
Fel prif elusen cymorth cyntaf Cymru, ein gweledigaeth yw i bobl gael y cymorth cyntaf sydd ei angen arnynt unrhyw bryd, unrhyw le drwy gynyddu hyder pobl i ymateb mewn argyfwng drwy ddysgu sgiliau cymorth cyntaf hanfodol a allai achub bywyd.
Gall ein hyfforddiant olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a gollwyd a bywyd a achubwyd, ac felly rydym yn falch o lansio ein hymgyrch flynyddol Save a Life September i roi cyfle i bobl yng Nghymru ddysgu sgiliau cymorth cyntaf hanfodol am ddim.
Mae ein sesiynau hyfforddiant ymwybyddiaeth cymorth cyntaf dwy awr eisoes wedi rhoi’r sgiliau cymorth cyntaf sydd eu hangen ar filoedd o bobl i achub bywyd, trwy ddysgu sgiliau sylfaenol fel perfformio CPR, cynorthwyo rhywun sy’n tagu, trin gwaedu difrifol a rhoi rhywun mewn ystum adfer.
Dywedodd Darren Murray, Pennaeth Gweithrediadau Cymunedol St John Ambulance Cymru: “Gall argyfwng daro heb fawr o rybudd, yn St John Ambulance Cymru rydym yn teimlo’n frwd dros roi cyfle i gynifer o bobl â phosibl ddysgu, neu ailddysgu, y sgiliau sydd eu hangen i helpu eraill.
Mae Save a Life September yn gyfle gwych i gymryd rhan a dod yn fwy hyderus am beth i’w wneud. Gall dysgu cymorth cyntaf olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a achubwyd, a bywyd a gollwyd. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld cymaint o bobl â phosibl yn y digwyddiadau rhad ac am ddim hyn.”
Pan fyddwch yn mynychu byddwch hefyd yn cael tystysgrif St John Ambulance Cymru i gydnabod eich sgiliau achub bywyd newydd.
Eleni bydd digwyddiadau Save a Life September yng Nghaerdydd yn y Red Dragon Centre ddydd Sadwrn 10 Medi rhwng 10am – 4pm, ac yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant ddydd Gwener 23 a dydd Sadwrn 24 Medi rhwng 8am – 5pm. Gallwch chwilio am ddigwyddiadau yn eich ardal chi trwy deipio eich cod post yn y bar chwilio ar ein gwefan https://training.stjohnwales.org.uk/course/CFAA