St John Ambulance Cymru’s Save a Life September campaign has returned to promote lifesaving skills to people all over Wales.
The aim of the annual campaign is to encourage people to learn first aid skills, so they are more prepared to act if an emergency happens near them.
St John Ambulance Cymru will be holding a series of free in-person sessions around the country, as well as offering full workplace training courses and online e-learning courses people can complete to expand their knowledge of lifesaving skills.
The charity will also be sharing a range of stories that show the real-life impact first aid can have and top tips on how you can assist your loved ones and colleagues should they need help
St John Ambulance Chief Executive, Richard Lee said: “First aid saves lives, and this campaign is all about equipping people with the simple skills that could be the difference between life and death.
“We want people who are willing to feel able to help in the event of an incident such as a cardiac arrest, as early intervention increases the likelihood of survival and buys precious time for further help to arrive.
“We also hope people will be inspired to volunteer with us and develop their skills further, which will give them the opportunity to be part of some of Wales’ most exciting events.”
As well as the Save a Life September sessions taking place in communities across the country, there will be public demonstrations taking place at the Red Dragon Centre in Cardiff Bay from 11am-4pm on Saturday 20th September and at the St Davids Shopping Centre in Cardiff City Centre from 11am-4pm on Sunday 21st September.
To see a full list of Save a Life September events, donate to support the campaign, as well other ways you can get involved visit the Save a Life September campaign page.
Helpwch i wneud Cymru yn gymuned o achubwyr bywyd trwy ddysgu sgiliau newydd yn ystod ymgyrch ‘Achub Bywyd ym mis Medi’
Mae ymgyrch Achub Bywyd ym Mis Medi St John Ambulance Cymru wedi dychwelyd i hyrwyddo sgiliau achub bywyd i bobl ledled Cymru.
Nod yr ymgyrch flynyddol yw annog pobl i ddysgu sgiliau cymorth cyntaf, fel eu bod yn fwy parod i weithredu os bydd argyfwng yn digwydd yn eu hymyl.
Bydd St John Ambulance Cymru yn cynnal cyfres o sesiynau wyneb yn wyneb am ddim ledled y wlad, yn ogystal â chynnig cyrsiau hyfforddiant yn y gweithle llawn a chyrsiau e-ddysgu ar-lein y gall pobl eu cwblhau i ehangu eu gwybodaeth am sgiliau achub bywyd.
Bydd yr elusen hefyd yn rhannu amrywiaeth o straeon sy'n dangos yr effaith go iawn y gall cymorth cyntaf ei chael ac awgrymiadau ar sut y gallwch chi fod yna i'ch anwyliaid a'ch cydweithwyr os bydd angen help arnynt.
Dywedodd Prif Weithredwr St John Ambulance, Richard Lee: “Mae cymorth cyntaf yn achub bywydau, ac mae’r ymgyrch hon yn ymwneud â rhoi’r sgiliau syml i bobl a allai fod y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.
“Rydym eisiau pobl sy’n barod i deimlo eu bod yn gallu helpu os bydd rhywbeth fel ataliad ar y galon yn digwydd, gan fod ymyrraeth gynnar yn cynyddu’r tebygolrwydd o oroesi ac yn prynu amser gwerthfawr fel y gall cymorth pellach gyrraedd.
“Rydym hefyd yn gobeithio y bydd pobl yn cael eu hysbrydoli i wirfoddoli gyda ni a datblygu eu sgiliau ymhellach, a fydd yn rhoi’r cyfle iddynt fod yn rhan o rai o'r digwyddiadau mwyaf cyffrous yng Nghymru.”
Yn ogystal â sesiynau Achub Bywyd ym mis Medi a gynhelir mewn cymunedau ledled y wlad, bydd arddangosiadau cyhoeddus yn digwydd yng Nghanolfan y Ddraig Goch ym Mae Caerdydd o 11am-4pm ddydd Sadwrn 20fed Medi ac yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant yng Nghanol Dinas Caerdydd o 11am-4pm ddydd Sul 21ain Medi.
I weld rhestr lawn o ddigwyddiadau Achub Bywyd ym mis Medi, i gyfrannu i gefnogi’r ymgyrch, ac i weld ffyrdd eraill y gallwch gymryd rhan, ewch i dudalen ymgyrch Achub Bywyd ym mis Medi.