Radyr and Morganstown Association raises £6,000 for St John Ambulance Cymru

RMA Donation 2025 CoTY Web Banner.jpg

The Radyr and Morganstown Association (RMA) has celebrated a major fundraising milestone having collected £6,000 in support of St John Ambulance Cymru, the first aid charity for Wales.

The total was presented to volunteers from the Radyr Division of St John Ambulance Cymru following a year of community events, marking a successful continuation of the partnership first announced when the association named the charity as its official cause for 2025. 

Throughout the year, residents came together at popular local events, including the Radyr and Morganstown Festival and community celebrations, helping to raise funds that will directly support lifesaving services across Cardiff and beyond.

The RMA, a community-led organisation founded in 1987, runs a wide programme of events designed to bring local people together while supporting charitable causes. 

The £6,000 donation will enable St John Ambulance Cymru to continue delivering vital first aid training, community demonstrations, and emergency medical support across Wales.

Tricia France, St John Ambulance Cymru’s County Commissioner for Cardiff and the Vale, said:

"Our Radyr Division was absolutely delighted to be selected as the 2025 Charity of the Year by the RMA.

“We have enjoyed a long relationship in providing first aid cover during the R&M Festival weeks, and we really appreciate this recognition of the work we do in the community.

“This year the theme was dinosaurs - and Radyr members made sure they played their part, whilst at Christmas, members followed the Santa Sleigh, receiving contributions from residents. We look forward to supporting the RMA as they continue to raise funds for charities that have a local presence in the area.”

The partnership has seen St John Ambulance Cymru volunteers closely involved with community activities, providing first aid cover at events while also helping residents build confidence through free demonstrations and training sessions.

The fundraising success was marked with a cheque presentation to St John Ambulance Cymru volunteers, celebrating the collective effort of residents, organisers, and supporters across Radyr and Morganstown.

St John Ambulance Cymru provides first aid training, medical transport, and emergency support throughout Wales, relying on volunteers and community fundraising to continue its mission of making communities safer. 

The RMA’s support will continue through further community events planned throughout the year, strengthening a partnership built on shared values of volunteering, community spirit and helping others.

To find out more about the RMA visit the RMA website.

 

Cymdeithas Radur a Threforgan yn codi £6,000 ar gyfer St John Ambulance Cymru

Mae Cymdeithas Radur a Threforgan (RMA) wedi dathlu carreg filltir codi arian pwysig ar ôl casglu £6,000 i gefnogi St John Ambulance Cymru, elusen cymorth cyntaf Cymru.

Cyflwynwyd y cyfanswm i wirfoddolwyr o Adran Radur St John Ambulance Cymru, yn dilyn blwyddyn o ddigwyddiadau cymunedol, gan nodi parhad o'r bartneriaeth lwyddiannus a gyhoeddwyd gyntaf pan enwodd y gymdeithas yr elusen fel ei hachos swyddogol ar gyfer 2025.

Drwy gydol y flwyddyn, daeth trigolion ynghyd mewn digwyddiadau lleol poblogaidd, gan gynnwys Gŵyl Radur a Threforgan a dathliadau cymunedol, gan helpu i godi arian a fydd yn cefnogi gwasanaethau achub bywyd yn uniongyrchol ledled Caerdydd a thu hwnt.

Mae'r RMA, sefydliad dan arweiniad y gymuned a sefydlwyd ym 1987, yn cynnal rhaglen eang o ddigwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i ddod â phobl leol ynghyd wrth gefnogi achosion elusennol.

Bydd y rhodd o £6,000 yn galluogi St John Ambulance Cymru i barhau i ddarparu hyfforddiant cymorth cyntaf hanfodol, arddangosiadau cymunedol a chymorth meddygol brys ledled Cymru.

Dywedodd Tricia France, Comisiynydd Sirol St John Ambulance Cymru dros Gaerdydd a’r Fro:

“Roedd ein Hadran Radur wrth ei bodd i gael ei dewis yn Elusen y Flwyddyn 2025 gan yr RMA.

“Rydym wedi mwynhau perthynas hir o ran darparu cymorth cyntaf yn ystod wythnosau Gŵyl R&M, ac rydym wir yn gwerthfawrogi’r gydnabyddiaeth hon o’r gwaith a wnawn yn y gymuned.

Thema eleni oedd deinosoriaid - a gwnaeth aelodau Radur chwarae eu rhan, a dros adeg y Nadolig, dilynodd yr aelodau Sled Siôn Corn, gan dderbyn cyfraniadau gan drigolion. Edrychwn ymlaen at gefnogi’r RMA wrth iddynt barhau i godi arian ar gyfer elusennau sydd â phresenoldeb lleol yn yr ardal.”

Mae'r bartneriaeth wedi gweld gwirfoddolwyr St John Ambulance Cymru yn ymwneud yn agos â gweithgareddau cymunedol, gan ddarparu cymorth cyntaf mewn digwyddiadau tra hefyd yn helpu trigolion i feithrin hyder trwy arddangosiadau a sesiynau hyfforddi am ddim.

Nodwyd llwyddiant y codi arian gyda chyflwyniad siec i wirfoddolwyr St John Ambulance Cymru, gan ddathlu ymdrech ar y cyd trigolion, trefnwyr a chefnogwyr ar draws Radur a Threforgan.

Mae St John Ambulance Cymru yn darparu hyfforddiant cymorth cyntaf, cludiant meddygol, a chymorth brys ledled Cymru, gan ddibynnu ar wirfoddolwyr a chodi arian cymunedol i barhau â'i genhadaeth o wneud cymunedau'n fwy diogel.

Bydd cefnogaeth yr RMA yn parhau trwy ddigwyddiadau cymunedol pellach a gynlluniwyd drwy gydol y flwyddyn, gan gryfhau partneriaeth sy'n seiliedig ar werthoedd cyffredin gwirfoddoli, ysbryd cymunedol a helpu eraill.

I gael gwybod mwy am yr RMA ewch i wefan yr RMA.

Published March 12th 2026

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer