St John Ambulance Cymru offering discounts and prizes as part of new Abergavenny training centre’s open day

St John Ambulance Cymru is celebrating the opening of its new Workplace Training Centre in Abergavenny with a free-to-attend open day on Friday 10th May.

People will be able to join expert first aid trainers from 10am to 4pm where they will be introducing some of the most important courses first aid charity for Wales offers, as well as performing free demonstrations to help you learn lifesaving first aid.

They'll also be on hand to offer tailored advice on what courses are suitable for your business, to ensure you become and remain safe and compliant. You can secure your free spot by registering here.

Located in the heart of Abergavenny, the training centre offers a comprehensive range of over 30 courses covering workplace first aid, health & safety, and mental health first aid.

As part of the opening celebrations, businesses can get a 15% discount off their first booking by calling the St John Ambulance Cymru Training Team on 03456 785646 or emailing training@sjacymru.org.uk today.

Attendees on the day will also be entered into a prize draw where someone will win a free place on an Emergency First Aid at Work course in Abergavenny.

Local residents are also being encouraged to attend the open day to find out how your local community group could be eligible for a free first aid demonstration. Young people or parents are also welcome to come along, to find out more about the charity’s Badger and Cadet programs which are tailored for children and young adults.

St John Ambulance Cymru’s training is tailored to assist your business in meeting and upholding all relevant UK regulations. Thousands of businesses and individuals benefit from the charity’s top-notch training programs throughout Wales each year.

The charity is committed to being the leading voice for first aid in Wales, sharing only the most up to date and accurate information. Following the standards set by the Voluntary Aid Services, St John Ambulance Cymru has an integral voice as member of the First Aid Quality Partnership. Profits from the sale of workplace training courses help to fund essential charitable work, saving lives and enhancing the health and wellbeing of communities in Wales.

Visit www.tickettailor.com/events/sjacymru/1213623 to register for the open day today.

You can find out more about St John Ambulance Cymru’s vast selection of workplace training courses at www.sjacymru.org.uk/en/page/training.

Some of St John Ambulance Cymru’s friendly training team, who will be on hand at the charity’s new training centre in Abergavenny for an open day on Friday 10th May from 10am-4pm.


St John Ambulance Cymru yn cynnig gostyngiadau a gwobrau fel rhan o ddiwrnod agored ei chanolfan hyfforddi newydd yn Y Fenni

Mae St John Ambulance Cymru yn dathlu agoriad ei Ganolfan Hyfforddiant yn y Gweithle newydd yn Y Fenni, gyda diwrnod agored rhad ac am ddim ar ddydd Gwener 10fed Mai.

Bydd pobl yn gallu ymuno â hyfforddwyr cymorth cyntaf arbenigol rhwng 10am a 4pm, a fydd yn cyflwyno rhai o’r cyrsiau pwysicaf y mae elusen cymorth cyntaf Cymru yn eu cynnig, yn ogystal â pherfformio arddangosiadau am ddim i’ch helpu i ddysgu cymorth cyntaf achub bywyd.

Byddant hefyd wrth law i gynnig cyngor wedi'i deilwra ar ba gyrsiau sy'n addas ar gyfer eich busnes, er mwyn sicrhau eich bod yn dod yn ddiogel ac yn cydymffurfio. Gallwch sicrhau eich lle am ddim trwy gofrestru yma.

Wedi'i lleoli yng nghanol Y Fenni, mae'r ganolfan hyfforddi yn cynnig ystod gynhwysfawr o dros 30 o gyrsiau sy'n cwmpasu cymorth cyntaf yn y gweithle, iechyd a diogelwch yn ogystal â chymorth cyntaf iechyd meddwl.

Fel rhan o’r dathliadau agoriadol, gall busnesau gael gostyngiad o 15% oddi ar eu harcheb gyntaf drwy ffonio Tîm Hyfforddi St John Ambulance Cymru ar 03456 785646 neu e-bostio training@sjacymru.org.uk heddiw.

Bydd mynychwyr y diwrnod agored hefyd yn cael eu cynnwys mewn raffl lle bydd rhywun yn ennill lle am ddim ar gwrs Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle yn Y Fenni.

Mae trigolion lleol hefyd yn cael eu hannog i fynychu'r diwrnod agored i ddarganfod sut y gall grŵpiau cymunedol lleol fod yn gymwys ar gyfer arddangosiad cymorth cyntaf am ddim. Mae croeso hefyd i bobl ifanc neu rieni mynychu, i ddarganfod mwy am raglenni Badgers a Chadetiaid yr elusen sydd wedi’u teilwra ar gyfer plant ac oedolion ifanc.

Mae hyfforddiant St John Ambulance Cymru wedi’i deilwra i gynorthwyo’ch busnes i fodloni a chynnal holl reoliadau perthnasol y DU. Mae miloedd o fusnesau ac unigolion yn elwa o raglenni hyfforddi o’r radd flaenaf yr elusen ledled Cymru bob blwyddyn.

Mae'r elusen wedi ymrwymo i fod y llais blaenllaw ar gyfer cymorth cyntaf yng Nghymru, gan rannu dim ond y wybodaeth fwyaf diweddar a chywir. Yn dilyn y safonau a osodwyd gan y Gwasanaethau Cymorth Gwirfoddol, mae gan St John Ambulance Cymru lais annatod fel aelod o'r Bartneriaeth Ansawdd Cymorth Cyntaf. Mae'r elw o werthu ein cyrsiau hyfforddi yn helpu i ariannu ein gwaith elusennol hanfodol, achub bywydau a gwella iechyd a lles cymunedau yng Nghymru.

Ewch i www.tickettailor.com/events/sjacymru/1213623 i gofrestru ar gyfer y diwrnod agored heddiw.

Gallwch ddarganfod mwy am yr ystod eang o gyrsiau hyfforddiant yn y gweithle y mae St John Ambulance Cymru yn eu cynnig yma: www.sjacymru.org.uk/en/page/training.

 

Published May 1st 2024

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer