St John Ambulance Cymru is highlighting the major contribution Paramedics make to supporting the charity’s work across Wales, as it marks International Paramedics Day 2025.
International Paramedics Day is celebrated each year on July 8th and the theme for this year’s celebration is ‘Unity and Community,’ which is particularly apt due to the continued close partnership working between St John Ambulance Cymru and the Welsh Ambulance Services University NHS Trust.
To herald the work of the Paramedics who give so generously of their spare time to support St John Ambulance Cymru, the charity’s will be sharing special thank you messages from senior leaders on social media, as well as highlighting the stories of some of the Paramedics who balance volunteering with their day-to-day lifesaving work.
St John Ambulance Cymru Chief Executive, Richard Lee said: “My 30-years to date as a registered Paramedic have seen me meet all sorts of amazing people and taken me to places I never imagined.
“The skills that Paramedics bring to our community of St John People are so important to support the work we do across the country, from major events at stadiums and arenas such as the recent Oasis concerts in Cardiff, to local celebrations on your doorstep.”
In 2024, the more than 90 Paramedics who volunteer with St John Ambulance Cymru dedicated a combined 5,284 hours of their spare time to the charity in a variety of roles, from being part of the teams that provide event first aid cover, to being Volunteer Alternative Responders.
If you would like to find out more about joining St John Ambulance Cymru, please visit our volunteering page.
St John Ambulance Cymru yn canmol y Parafeddygon sydd hefyd yn gwirfoddoli i gefnogi cymunedau ledled Cymru
Mae St John Ambulance Cymru yn tynnu sylw at y cyfraniad mawr y mae Parafeddygon yn ei wneud i gefnogi ei waith ledled Cymru, wrth i'r elusen nodi Diwrnod Rhyngwladol y Parafeddygon 2025.
Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Parafeddygon ar Orffennaf 8fed bob blwyddyn, a thema'r dathliad eleni yw 'Undod a Chymuned,' sy'n arbennig o briodol oherwydd y bartneriaeth agos barhaus rhwng St John Ambulance Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
I gydnabod gwaith y Parafeddygon sy'n rhoi mor hael o'u hamser sbâr i gefnogi St John Ambulance Cymru, bydd yr elusen yn rhannu negeseuon diolch arbennig gan uwch arweinwyr ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â thynnu sylw at straeon rhai o'r Parafeddygon sy'n cydbwyso gwirfoddoli â'u gwaith achub bywydau o ddydd i ddydd.
Dywedodd Richard Lee, Prif Weithredwr St John Ambulance Cymru: “Mae fy 30 mlynedd fel Parafeddyg cofrestredig hyd yn hyn wedi fy ngweld yn cwrdd â phob math o bobl anhygoel ac wedi fy arwain i leoedd na wnes i erioed eu dychmygu.
“Mae’r sgiliau y mae Parafeddygon yn eu cynnig i’n cymuned o Bobl St John mor bwysig i gefnogi’r gwaith a wnawn ledled y wlad, o ddigwyddiadau mawr mewn stadia ac arenâu fel cyngherddau diweddar Oasis yng Nghaerdydd, i ddathliadau lleol ar garreg eich drws.”
Yn 2024, neilltuodd y mwy na 90 o Barafeddygon sy'n gwirfoddoli gydag St John Ambulance Cymru gyfanswm o 5,284 awr o'u hamser sbâr i'r elusen mewn amrywiaeth o rolau, o fod yn rhan o'r timau sy'n darparu cymorth cyntaf ar gyfer digwyddiadau, i fod yn Ymatebwyr Amgen Gwirfoddol.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ymuno ag St John Ambulance Cymru, ewch i'n tudalen gwirfoddoli.