A generous donation by The Toyota Manufacturing UK Charitable Trust has helped St John Ambulance Cymru to equip its new Community Support Units, which will soon be rolled out across North Wales.
The vehicles will be used by the first aid charity for Wales’ dedicated volunteers at community events across the region. The £3,000 provided by the Trust will help ensure they are fully stocked with all the necessary medical kit to provide the highest level of service.
James Cordell, Partnership and Relationship Manager at St John Ambulance Cymru, said:
“We are extremely grateful to The Toyota Manufacturing UK Charitable Trust for this donation, which will ensure our volunteers have everything they need to provide high quality first aid cover at hundreds of events across North Wales.
“As well as helping to improve the experience of our volunteers, we hope the use of this equipment will help us encourage more people to learn vital first aid skills and become volunteers to support our goal to make Wales a community of lifesavers.”
Richard Finchett, Trustee and Toyota Manufacturing UK Deputy Managing Director – Engine Plant & Vehicle Plant Corporate Functions, said:
“We are extremely proud to support some amazing causes, including St John Ambulance Cymru, a fantastic charity making a difference in our local communities.”
Keep an eye out for St John Ambulance Cymru at upcoming events in North Wales, including the Deeside Round Table Car Show, to the Hawarden Summer Festival and Prestatyn Carnival.
If you would like to find out more about volunteering with St John Ambulance Cymru or requesting first aid cover for your event, please visit www.sjacymru.org.uk.
Rhodd gan The Toyota Manufacturing UK Charitable Trust yn helpu i gyfarparu cerbydau cymorth cymunedol newydd St John Ambulance Cymru
Mae rhodd hael gan The Toyota Manufacturing UK Charitable Trust wedi helpu St John Ambulance Cymru i gyfarparu ei Unedau Cymorth Cymunedol newydd, a fydd cyn bo hir yn cael eu cyflwyno ledled Gogledd Cymru.
Bydd y cerbydau yn cael eu defnyddio gan wirfoddolwyr ymroddedig elusen cymorth cyntaf Cymru ar gyfer digwyddiadau cymunedol ledled y rhanbarth. Bydd y £3,000 a ddarperir gan yr ymddiriedolaeth yn helpu i sicrhau eu bod wedi'u stocio'n llawn â'r holl offer meddygol angenrheidiol sydd angen i ddarparu'r lefel uchaf o wasanaeth.
Dywedodd James Cordell, Rheolwr Partneriaeth a Pherthynas St John Ambulance Cymru:
“Rydym yn hynod ddiolchgar i The Toyota Manufacturing UK Charitable Trust am y rhodd hon, a fydd yn sicrhau bod gan ein gwirfoddolwyr bopeth sydd ei angen arnynt i ddarparu cymorth cyntaf o ansawdd uchel mewn cannoedd o ddigwyddiadau ledled Gogledd Cymru.
“Yn ogystal â helpu i wella profiad ein gwirfoddolwyr, rydym yn gobeithio y bydd defnyddio’r offer hwn yn ein helpu i annog mwy o bobl i ddysgu sgiliau cymorth cyntaf hanfodol, a dod yn wirfoddolwyr i gefnogi ein nod o wneud Cymru yn gymuned o achubwyr bywydau.”
Dywedodd Richard Finchett, Ymddiriedolwr a Dirprwy Reolwr Gyfarwyddwr – Swyddogaethau Corfforaethol Peiriannau Injan a Cherbydau Toyota Manufacturing UK:
“Rydym yn hynod falch o gefnogi rhai achosion anhygoel, gan gynnwys St John Ambulance Cymru, elusen wych sy’n gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau lleol.”
Cadwch lygad am St John Ambulance Cymru mewn digwyddiadau sydd ar ddod yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys Sioe Ceir Ford Gron Glannau Dyfrdwy, i Ŵyl Haf Penarlâg a Charnifal Prestatyn.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli gyda St John Ambulance Cymru neu ofyn am gynorthwywyr cyntaf i fynychu eich digwyddiad, ewch i www.sjacymru.org.uk.