St John Ambulance Cymru officially opens new Ynys Môn Division at RAF Valley

YnysMonOpeningBanner.png

St John Ambulance Cymru recently officially held a special opening event for its new Ynys Môn Division, which will be based at the Rimon Than Healthcare Facility at RAF Valley.

The new division starts a new chapter for the first aid charity for Wales on the Isle of Anglesey, replacing the former Holyhead Division.

Among those in attendance were Cllr Dafydd Rhys Thomas (Chair), and Cllr Gwilym Jones of Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council and St John People from across North Wales.

Addresses were made on behalf of St John Ambulance Cymru by Chief Executive Richard Lee, North Wales Commissioner Craig Jones, Divisional Manager Simon Roberts and member of the new division Eric Goulden, as well as Flt Sgt Sam Dempster who runs the medical centre at RAF Valley.

St John Ambulance Chief Executive, Richard Lee said:

“We are delighted to renew our commitment to the communities of Ynys Môn by establishing this new division working in partnership with RAF Valley.

“As well as making it easier for St John to recruit RAF personnel, we are confident this collaboration will help encourage more people to see what both St John and the RAF can offer in terms of training, experience and camaraderie.”

Divisional Manager Simon Roberts added:

“St John has a long history on Ynys Môn and we want to continue to grow our presence, following in the footsteps of the long serving volunteers such as Vaughan and Iris, who we have sadly lost in recent years, having given over half a century of service each to the charity.

“A huge thanks to Flt Sgt Sam Dempster for helping us make this possible and for all the support from RAF Valley to enable us to start this new exciting new chapter for St John on Ynys Môn, and to Annetta Davey, Tesco Community Champion for providing the refreshments for this event.”

The event was also significant as it saw St John volunteer Eric Goulden receive his Priory Vote of Thanks from the Priory for Wales for the part he played in saving the life of a member of the public who had suffered a cardiac arrest at an event in 2026.

As well as volunteering as a first aider and blue light driver on behalf of the charity, Eric has also raised more than £85,000 in sponsorship over the past few years, taking on long distance walks around the perimeter of Wales and the Great Wall of China.

St John Ambulance Cymru’s Ynys Môn Division meets from 7pm-9pm every Tuesday. For more information about the division, email Divisional Manager Simon Roberts.

To find out more about St John Ambulance Cymru’s work and to sign-up to become a volunteer on Ynys Môn, or a division near you, visit our volunteering page.

 

Agoriad swyddogol yn RAF y Fali i Adran Ynys Môn newydd St John Ambulance Cymru

Yn ddiweddar, cynhaliodd St John Ambulance Cymru ddigwyddiad agoriadol swyddogol ar gyfer ei Adran newydd ar Ynys Môn, a fydd wedi'i lleoli yng Nghyfleuster Gofal Iechyd Rimon Than yn RAF y Fali.

Mae'r adran newydd yn dechrau pennod newydd i'r elusen cymorth cyntaf i Gymru ar Ynys Môn, gan ddisodli'r hen Adran yng Nghaergybi.

Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol roedd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas (Cadeirydd), a’r Cynghorydd Gwilym Jones o Gyngor Sir Ynys Môn a phobl St John o bob rhan o Ogledd Cymru.

Traddodwyd areithiau ar ran St John Ambulance Cymru gan y Prif Weithredwr Richard Lee, Comiynydd Gogledd Cymru, Craig Jones, Rheolwr Adrannol Simon Roberts ac aelod yr adran, Eric Goulden, yn ogystal â'r Rhingyll Awyrlu Sam Dempster sy'n rhedeg y ganolfan feddygol yn RAF y Fail.

Dywedodd Prif Weithredwr Ambiwlans St John, Richard Lee:

“Rydym wrth ein bodd yn adnewyddu ein hymrwymiad i gymunedau Ynys Môn drwy sefydlu’r adran newydd hon mewn partneriaeth ag RAF y Fali.

“Yn ogystal â’i gwneud hi’n haws i St John recriwtio personél yr RAF, rydym yn hyderus y bydd y cydweithrediad hwn yn helpu i annog mwy o bobl i weld beth all St John a’r RAF ei gynnig o ran hyfforddiant, profiad a chyfeillgarwch.”

Ychwanegodd y Rheolwr Adrannol Simon Roberts:

“Mae gan St John hanes hir ar Ynys Môn ac rydym am barhau i dyfu ein presenoldeb, gan ddilyn ôl troed y gwirfoddolwyr hirhoedlog fel Vaughan ac Iris, yr ydym wedi’u colli’n anffodus yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ar ôl rhoi dros hanner canrif o wasanaeth yr un i’r elusen.

“Diolch yn fawr iawn i’r Rhingyll Awyrlu Sam Dempster am ein helpu i wneud hyn yn bosibl ac am yr holl gefnogaeth gan RAF y Fali i’n galluogi i ddechrau’r bennod newydd gyffrous hon i St John ar Ynys Môn, ac i Annetta Davey, Hyrwyddwr Cymunedol Tesco am ddarparu’r lluniaeth ar gyfer y digwyddiad hwn.”

Roedd y digwyddiad hefyd yn arwyddocaol gan iddo weld gwirfoddolwr St John, Eric Goulden, sy'n aelod o'r adran newydd, yn derbyn ei Bleidlais o Ddiolch gan y Priordy dros Gymru am y rhan a chwaraeodd wrth achub bywyd aelod o'r cyhoedd a oedd wedi dioddef ataliad ar y galon mewn digwyddiad yn 2026.

Yn ogystal â gwirfoddoli fel cymhorthydd cyntaf a gyrrwr goleuadau glas ar ran yr elusen, mae Eric hefyd wedi codi mwy na £85,000 mewn nawdd dros y blynyddoedd diwethaf, gan fynd ar deithiau cerdded pellter hir o amgylch perimedr Cymru a Mur Mawr Tsieina.

Mae Adran Ynys Môn St John Ambulance Cymru yn cyfarfod rhwng 7pm a 9pm bob nos Fawrth. Am ragor o wybodaeth am yr adran, e-bostiwch y Rheolwr Adrannol Simon Roberts.

I gael gwybod mwy am waith St John Ambulance Cymru ac i gofrestru i fod yn wirfoddolwr ar Ynys Môn, neu adran yn agos atoch chi, ewch i www.sjacymru.org.uk/volunteer.

Published July 27th 2026

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer