Over 900 pupils and staff at Ysgol Harri Tudur learn lifesaving skills with St John Ambulance Cymru

YHT Defibruary 2026.jpg

Pupils in years 7-11 at Ysgol Harri Tudur – Henry Tudor School in Pembrokeshire took part in a hands-on experience of CPR and defibrillator skills on February 2nd, as part of St John Ambulance Cymru’s Defibruary campaign.

In total 924 pupils and staff learned the importance of these lifesaving skills, with over 70% of the 6,000 cardiac arrests that occur outside of hospital in Wales each year happening at home.

The day had been organised thanks to Cadets from St John Ambulance Cymru’s Haverfordwest Division, with eight of the group helping to demonstrate CPR and defib skills to students, supported by adult trainers and volunteers.

Ali Downing, St John Ambulance Cymru’s County Training Manager for Dyfed said:

“It was a pleasure to support the Cadets, who were given a valuable opportunity to showcase what they have learned as St John People and engage with people their own age during the group sessions held throughout the day.

“They were a credit to their Division and we hope they will continue their development to become adult volunteers and support our work at events across Wales, as well as encouraging more young people to sign-up to join us.”

National Grid were also present at the Defibruary event, continuing their successful partnership with St John Ambulance Cymru by engaging with the pupils on the importance of electrical safety.

Mrs Rachel Edwards - Deputy Director of Health and Wellbeing at Ysgol Harri Tudur – Henry Tudor School, said:

“We were delighted to welcome St John Ambulance Cymru and National Grid into our school and are very grateful to the Cadets and volunteers for delivering such an important session.

“It was fantastic to see our pupils so engaged while gaining lifesaving skills and confidence that could one day help save lives and benefit the wider community."

To find out more about the Defibruary campaign, including details of free public demonstrations near you, visit our Defibruary page.

 

Dros 900 o ddisgyblion a staff Ysgol Harri Tudur yn dysgu sgiliau achub bywyd gyda St John Ambulance Cymru

Cymerodd disgyblion blynyddoedd 7-11 yn Ysgol Harri Tudur yn Sir Benfro ran mewn profiad ymarferol o sgiliau CPR a diffibriliwr ar Chwefror 2il, fel rhan o ymgyrch Defibruary St John Ambulance Cymru.

Dysgodd 924 o ddisgyblion a staff bwysigrwydd y sgiliau achub bywyd hyn, gyda dros 70% o'r 6,000 o ataliadau ar y galon sy'n digwydd y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru bob blwyddyn yn digwydd gartref.

Trefnwyd y diwrnod diolch i Gadetiaid o Adran Hwlffordd St John Ambulance Cymru, gydag wyth o'r grŵp yn helpu i arddangos sgiliau CPR a diffibs i fyfyrwyr, gyda chefnogaeth hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yr elusen.

Dywedodd Ali Downing, Rheolwr Hyfforddiant St John Ambulance Cymru ar gyfer Dyfed:

“Roedd yn bleser cefnogi’r Cadetiaid, a gafodd gyfle gwerthfawr i arddangos yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu fel Pobl St John, ac ymgysylltu â phobl o’u hoedran eu hunain yn ystod y sesiynau grŵp a gynhaliwyd drwy gydol y dydd.

“Roedden nhw’n glod i’w Adran ac rydym yn gobeithio y byddant yn parhau â’u datblygiad i ddod yn wirfoddolwyr fel oedolion, a chefnogi ein gwaith mewn digwyddiadau ledled Cymru, yn ogystal ag annog mwy o bobl ifanc i ymuno â ni.”

Roedd y Grid Cenedlaethol hefyd yn bresennol yn y digwyddiad Defibruary, gan barhau â'u partneriaeth lwyddiannus a St John Ambulance Cymru trwy ymgysylltu â'r disgyblion ar bwysigrwydd diogelwch trydanol.

Dywedodd Mrs Rachel Edwards, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd a Lles Ysgol Harri Tudur:

“Roedden ni wrth ein bodd yn croesawu St John Ambulance Cymru a’r Grid Cenedlaethol i’n hysgol ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r Cadetiaid a’r gwirfoddolwyr am gyflwyno sesiwn mor bwysig.

“Roedd yn wych gweld ein disgyblion mor ymgysylltiedig wrth ddysgu sgiliau achub bywyd a hyder a allai un diwrnod helpu i achub bywydau a bod o fudd i’r gymuned ehangach.”

I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch Defibruary, gan gynnwys manylion arddangosiadau cyhoeddus am ddim yn eich ardal chi, ewch i'n dudlaen Defibruary.

Published February 11th 2026

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer